Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR SAFONAU

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD IAU, 17 MAWRTH, 2022 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

4.       Cais am Ganiatâd.

[Gweld Cofnod]

5.       Trosolwg a Gwersi a Ddysgwyd o Sylwadau gan Aelodau Annibynnol o Gyfarfodydd Pwyllgorau Cynghorau Tref a Chymuned

[Gweld Cofnod]

6.       Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.

[Gweld Cofnod]

7.       Diwygiadau i Gylch Gorchwyl Pwyllgor Cyfansoddiad a Safonau’r Cyngor.

[Gweld Cofnod]

8.       Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Canllawiau Statudol Safonau Ymddygiad.

[Gweld Cofnod]

9.       Cynhadledd Safonau Cymru: Chwefror 2022 – Adroddiad Diweddaru.

[Gweld Cofnod]

10.     Diweddariad yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Sili a Larnog a'r Swyddog Monitro ynghylch Adroddiad Archwilio Cymru ar Ddigonolrwydd o ran Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol.

[Gweld Cofnod]

11.     Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

[Gweld Cofnod]

 

12.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

13.     Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

[Gweld Cofnod]

 

 

14.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

11 Mawrth, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985

Arolygu papurau cefndir: Yn yr achos cyntaf dylid ymholi K. Bowen (Ffôn: 01446 709856).

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Safonau

Y Cynghorwyr: R.M. Birch, B.T. Gray ac A.R. Robertson

 

Aelodau Annibynnol:

R. Hendicott (Cadeirydd)

L. Tinsley (Is-gadeirydd)

R. Alexander

P. Hallett

G. Watkins

 

Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned:

Y Cynghorydd M. Cuddy

 

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Yn weithredol o 5 Mai 2022 er mwyn cydymffurfio ag Adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bydd rhai cyfarfodydd yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol allu “i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ".  Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a TGCh yn gweithio i sicrhau y cedwir at ofynion Adrannau 46 a 47 yn barod ar gyfer 5 Mai 2022.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709856.

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx