Cost of Living Support Icon

Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio i gefnogi amcanion y cynlluniau cenedlaethol isod drwy gyflenwad ei wasanaeth a’i bartneriaeth â Bwrdd Iechyd y Brifysgol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r drydedd sector.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru drydydd cam ei Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (http://gov.wales/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?lang=cy) ym mis Mai 2013. Cynllun deng mlynedd ar gyfer y cyfnod 2013–23 yw Cam 3, a bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar fodel triad o Adnoddau Cymdeithasol, Adnoddau Amgylcheddol ac Adnoddau Ariannol.  

 

Diben y strategaeth yw helpu awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd a’r sector wirfoddol i ganolbwyntio ar a chydlynu diwallu anghenion a gwireddu gobeithion pobl hŷn a sut i ddiwallu’r anghenion rheiny. 

 

 

Panel Trafod Strategaeth 50+ Bro Morgannwg

Mae’r panel yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol i gefnogi anghenion pobl dros 50 oed ym Mro Morgannwg. Mae’n ymateb i ymgynghoriadau, yn cefnogi ymgyrchoedd iechyd a diogelwch cymunedol ac yn trefnu nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn.

 

Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn ac yn byw neu’n gweithio ym Mro Morgannwg, gallwch chi ymuno â’r panel trafod, mynd i’r digwyddiadau a gynhelir gan y panel neu fynd i unrhyw un o chwe chyfarfod pwyllgor gwaith y panel isod:

  • Gwahaniaethu ar sail Oedran
  • Celf, Crefft a Hamdden
  • Iechyd
  • Tai
  • Y Cyfryngau a Chyhoeddusrwydd
  • Trafnidiaeth

Panel Trafodaeth Strategaeth 50+ (Saesneg yn unig)

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Tim Perfformias a Pholisi:

 

Tim Perfformiad a Pholisi, 

Y Swyddfeydd Dinesig 

Holton Road

Y Barri

CF63 4RU 

 

  • 01446 709779
  • OPF@valeofglamorgan.gov.uk