Gwnued Gais am Gostyngiad y Dreth Gyngo’r
Gallwch wneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor os ydych o oedran gweithio neu’n bensiynwr ac ar incwm isel, p'un a ydych yn ddi-waith neu'n gweithio. Os oes gennych dros £16,000 o gyfalaf neu gynilion, ni fydd gennych hawl i ostyngiad fel arfer. Nid yw'r terfyn o £16,000 yn berthnasol os ydych ar Warant Credyd Pensiwn.
Os ydych chi wedi hawlio neu’n derbyn y Credyd Cynhwysol, gallwch gael help tuag at gostau eich Treth Gyngor gan y Cyngor.
Ni allwch hawlio hyn o fewn eich hawliad Credyd Cynhwysol - rhaid i chi wneud cais ar wahân gyda'r Cyngor.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech fod yn gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r adran Budd-daliadau:
Nid yw E-claim Budd-dal Tai (a/neu ostyngiad yn y Dreth Gyngor) ar gael ddydd Mercher 10fed a dydd Llun 15fed Rhagfyr 2025 o 3pm tan 6pm oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol
Gwnued Gais am Gostyngiad y Dreth Gyngo’r
Gallwch weld Budd-daliadau a thaliadau chi a derbyn hysbysiadau drwy e-bost ar y Gwasanaethau Ar-lein. Cliciwch isod i gofrestru:
Gwasanaethau Ar-lein
Edrych ar hysbysiad preifatrwydd y cyngor