Cost of Living Support Icon

Asesydd Annibynnol

Mae Bro Morgannwg yn chwilio am weithwyr cymdeithasol â chymwysterau addas i gynnal asesiadau ar ran yr awdurdod.

 

Bydd angen i chi gael profiad o gwblhau asesiadau dadansoddol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gallai'r rhain gynnwys, Ffurflen F Corambaaf, Personau Cysylltiedig, Ymarferoldeb a/neu Asesiadau Rhianta. Bydd gofyn i chi, os gofynnir am hynny, fynychu a chyflwyno eich asesiad gorffenedig i banel maethu a/neu Lys.

 

I'ch cefnogi byddwn yn cynnig:

  • Ffioedd cystadleuol.

  • Yr holl ddogfennau a ffurflenni perthnasol.

  • Gwasanaeth ymgynghori drwy gydol yr asesiad gyda gweithwyr cymdeithasol plant a rheolwyr fel y bo'n briodol.

  • Sicrwydd ansawdd o ran yr asesiadau er mwyn rhoi adborth a chymorth adeiladol.

 

Disgrifiad Swydd

  • Cwblhau asesiad/au ar ran yr Awdurdod Lleol megis Ffurflen F Corambaaf, Personau Cysylltiedig, Ymarferoldeb neu Asesiadau Rhianta.

 

Manyleb Person - Profiad a Chymwysterau

  • Tystiolaeth o 3 blynedd o brofiad gwaith cymdeithasol o leiaf

  • Profiad o gwblhau asesiadau dadansoddol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

  • Tystiolaeth o BA gwaith cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol (CQSW, DipSW)

  • Indemniad Cyhoeddus ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

  • Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

  • 2 eirda proffesiynol.

  • Cwblhau GDG manwl.

  • CV cyfredol.

 

Gwybodaeth, Gallu ac Agweddau

  • Gwybodaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu ardderchog

  • Sgiliau dadansoddi gwych

  • Gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol.

  • Yn brydlon ac yn ddibynadwy.

  • Ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

  • Ymarfer mewn modd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol.

  • Ymarfer mewn ffordd sy'n dangos dealltwriaeth glir ac yn hyrwyddo cyfrinachedd.

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais i fod yn ein cronfa o aseswyr annibynnol anfonwch e-bost at fostercare@valeofglamorgan.gov.uk (at sylw Amy McArdle) gyda CV a manylion cyswllt.