Cost of Living Support Icon

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

Dyluniwyd y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i gwmpasu defnydd Cyngor Cymru Morgannwg o gyfryngau cymdeithasol lle mae'r cynnwys, y wybodaeth neu'r gwasanaethau yn cael eu darparu gan, neu ar ran y Cyngor.

Cefndir

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio Facebook, Twitter, YouTube a LinkedIn.


Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am wasanaethau a digwyddiadau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal â rhannu a hyrwyddo gwaith y sefydliad. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ofyn am farn ac adborth ar bynciau penodol, fel ymgynghoriadau. 


Caiff ein sianeli cyfryngau cymdeithasol eu monitro yn ystod oriau swyddfa arferol. Er y byddwn yn rhannu postiadau dros y penwythnos a gwyliau cyhoeddus fel mater o drefn, ni chaiff ein tudalennau eu monitro yn ystod y cyfnod hwn a dylech ddisgwyl oedi wrth gael ymateb.

 

Gall y cyhoedd gysylltu â ni i gael cyngor ar wasanaethau neu i wneud ymholiadau cyffredinol, yr ymatebir iddynt yn uniongyrchol neu y cânt eu cyfeirio i’r adran gywir. 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni.

Ein bwriad yw bod yn gymwynasgar ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â chwsmeriaid drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn ceisio rhoi ateb clir a chryno i ymholiadau lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn osgoi defnyddio jargon ac ysgrifennu mewn iaith glir.


Pan nad yw materion yn syml, byddwn yn trosglwyddo'r ymholiad i adran benodol. Oherwydd hyn, efallai y bydd oedi cyn ymateb i gwsmeriaid.

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw fanylion cyswllt staff i gwsmeriaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Os gofynnwch am gael eich rhoi mewn cysylltiad yn uniongyrchol ag aelod o staff, cewch eich cyfeirio at Cyswllt Un Fro neu flwch post / ffôn yr adran. Ein nod yw trosglwyddo unrhyw adborth neu sylwadau cadarnhaol a wneir am ein timau.


Ein nod yw ymateb i sylwadau neu ymholiadau dilys, ond efallai y bydd achlysuron lle rydym yn colli rhai, yn enwedig ar adegau prysur. Os byddwn yn methu eich ymholiad, peidiwch â meddwl ein bod yn eich anwybyddu'n fwriadol.


Os yw eich ymholiad yn ddifrifol, yn frys, yn fanwl neu'n cynnwys manylion personol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn uniongyrchol ar 01446 700111.


Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn penderfynu peidio ag ymateb i gwsmeriaid. Er enghraifft, pan gaiff mater ei godi yr ymdriniwyd ag ef yn y gorffennol neu pan nad oes ymholiad / pryder penodol wedi’i godi.

 

Rydym yn defnyddio ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel mater o drefn yn rhan o'n gwaith ymgynghori. Efallai y byddwn yn cyhoeddi dolenni i ymgynghoriadau neu'n gofyn i chi adael sylwadau neu ymateb i arolwg barn. Lle rydym wedi gwneud hyn, byddwn yn casglu'r holl adborth perthnasol a dilys ac yn sicrhau ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r tîm. Ni fyddwn yn ymgysylltu â chi fel mater o drefn ar negeseuon fel y rhain.

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi.

Ychydig iawn o gwsmeriaid y mae eu gweithredoedd yn annerbyniol yn ein barn ni. 


Ein nod yw rheoli'r gweithredoedd hyn yn seiliedig ar eu natur a'u difrifoldeb. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni gyfyngu ar gyswllt cwsmeriaid â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol.


Yn y lle cyntaf, byddwn yn dileu negeseuon neu sylwadau (lle mae'r swyddogaeth yn caniatáu hyn) y credwn eu bod yn:

 

  • Ddifrïol neu’n anweddus
  • Twyllodrus neu’n gamarweiniol
  • Croes i unrhyw hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint
  • Croes i unrhyw gyfraith neu reoliadAmherthnasol (gyda’r nod o gael ymateb)
  • Deunydd hyrwyddo, gan gynnwys dolenni i wefannau allanol a hyrwyddiadau
  • Enwi aelodau o staff neu’n cyhoeddi manylion cyswllt staffCyhoeddi manylion personol
  • Cyhoeddi gwybodaeth sensitif neu breifat

Gwneir hyn heb roi rhybudd.


Fel arall, byddwn yn tawelu neu'n blocio defnyddwyr o ganlyniad i ymgysylltu y credwn ei fod yn:

 

  • Hynod o ddifrïol neu anweddus
  • Sbamio (h.y. codi’r un mater dro ar ôl tro er bod ymateb wedi’i roi iddo)
  • A dderbynnir gan bots

Gwneir hyn heb roi rhybudd.

 

Mewn rhai achosion, byddwn yn ceisio hysbysu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am sylwadau / post defnyddiwr, lle mae canllawiau'r lwyfannau hynny’n ein cynghori i wneud hynny.

 

Mae'r holl gamau hyn yn cyd-fynd â Pholisi a Phroses Ymddygiad Achwynwyr Afresymol y Cyngor.