Cost of Living Support Icon

 

Cais i breswylwyr y Fro barhau â’u hymdrechion ailgylchu

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno newidiadau brys i gasgliadau ailgylchu gwastraff aelwyd mewn ymgais i ddatrys problem gynyddol o ran halogi.

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg

 

 

 Contaminated recycling in the Vale

Er bod mwyafrif llethol preswylwyr y Fro yn ymrwymedig i ailgylchu ac wedi helpu Bro Morgannwg i ddod yn un o’r ardaloedd gorau yng Nghymru o ran ailgylchu, mae nifer fach ond cynyddol wedi bod yn rhoi eitemau na ellir eu hailgylchu yn eu bagiau ailgylchu.

 

Mae’r eitemau hyn yn cynnwys cewynnau wedi’u baeddu, gwastraff bwyd a hyd yn oed gwasarn cathod, sy’n golygu bod angen gwrthod llond lorïau o ddeunydd ailgylchu yn y ganolfan brosesu ac mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â hyn.

 

I ddatrys y broblem gyda halogi, ni fydd gwastraff y gellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu oni bai ei fod wedi’i roi mewn bagiau neu flychau a roddir gan y Cyngor. Rydym yn gofyn i bobl wneud y newid cyn gynted ag y bo modd ac i’r newid llawn fod ar waith erbyn diwedd mis Awst.

 

“Mae preswylwyr y Fro wedi gwneud ymdrech anhygoel i gyflawni cyfradd ailgylchu mor uchel ond yn anffodus mae lleiafrif yn anwybyddu’r canllawiau ac mae’n achosi problem ddifrifol.  Mae angen gweithredu ar frys ac mae’n bleser gennym weld bod llawer o breswylwyr yn mabwysiadu’r newidiadau yn ddi-oed.

 

 “Mae plastigau untro hefyd yn fygythiad difrifol i’n planed, yn benodol i’n cefnforoedd, ac fel preswylwyr gwlad arfordirol, rydym yn deall difrifoldeb y niwed hwnnw. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn helpu i leihau swm y gwastraff plastigau untro a gynhyrchir.” - y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

 

Mae stoc ychwanegol o fagiau a blychau amldro’r Cyngor ar gael am ddim mewn sawl lleoliad ar draws y Fro.

 

Recycling-Containers

 

Cynwysyddion Ailgylchu a Gwastraff  

Mae’r Cyngor yn darparu nifer o fagiau a bocsys ailgylchu i breswylwr y Fro, yn cynnwys:

  • Bagiau Ailgylchu Glas
  • Blychau a Rhwydi Ailgylchu
  • Pecynnau Gwastraff Cegin
  • Bagiau Gwastraff Gardd
  • Cist Hylendid

 

Cynwysyddion Ailgylchu a Gwastraff

 

Casgliadau bagiau du fel yr arfer

Bydd ein gwasanaeth casglu bagiau du yn parhau fel yr arfer. Gall cartrefi’r Fro roi uchafswm o 2 fag du o wastraff y cartref mas i’w casglu bob pythefnos.

 

Casgliadau Bagiau Du

 

lwfans bagiau ychwanegol: Angen mwy o help? Os oes yn eich cartref:

  • 6 neu fwy o breswylwyr
  • Gwastraff a gwelyau anifeiliaid anwes
  • Lludw o losgwyr/tanau cartref
  • Cewynnau neu gynhyrchion hylendid oedolion
  • Gwastraff arall na allwch ei ailgylchu neu’i gyfyngu i 2 fag.

Bydd aelod o’n tîm yn trafod eich anghenion gyda chi a gellir trefnu i warden ymweld â’ch cartref.

  • 01446 700111

 

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Pam na allai ddefnyddio bagiau plastig?

    Rydym yn gofyn i drigolion ddefnyddio’r cynhwysyddion iawn gan fod rhai pobl yn rhoi eitemau na ellir eu hailgylchu megis cewynnau wedi eu baeddu a gwastraff bwyd gyda’r gwastraff ailgylchu yn anffodus, a phan gaiff yr eitemau hyn eu rhoi yn y bag, maent yn halogi gweddill y deunyddiau ailgylchu.

     

    Gan ddefnyddio’r cynhwysyddion cywir gall criwiau weld a yw cynnwys y bagiau yn ailgylchadwy neu’n wastraff cyffredinol.

     

    Yn ogystal â hynny, ni alwn brosesu bagiau plastig ailgylchu untro yn y Cyfleuster Ailgylchu Cymysg.

  • Es i am fagiau ac nid oedd rhai ar ôl; sut gallaf gael rhai?

    Rydym yn parhau i gyflenwi stoc ar draws y Fro drwy gydol yr wythnosau nesaf.

     

    Ni fydd y newidiadau yn dod i rym am ychydig o wythnosau eto, felly mae amser o hyd i drigolion gasglu bagiau a blychau o wahanol leoliadau cyn i’r newidiadau ddod i rym.

  • Rwy’n gweithio’n llawn amser ac ni allaf gyrraedd y swyddfeydd cyn 5:00pm, sut gallaf gael bagiau?

    Mae ein bagiau ailgylchu glas ar gael o lyfrgelloedd ledled y Fro, mae nifer ohonynt ar agor yn hwyrach ar ddiwrnodau’r wythnos penodol ac maent ar agor ar ddydd Sadwrn hefyd.

     

    Ein Llyfrgelloedd

     

  • Nid wyf wedi cael llythyr, beth ddylwn ei wneud?

    Mae llythyrau wedi eu hanfon at yr holl drigolion. Os nad ydych chi wedi cael llythyr gallwch weld copi ar-lein:

     

     

  • Beth i’w wneud gyda phapur wedi’i rwygo’n fân?

    Yn anffodus, ni allwn ailgylchu papur wedi’i rwygo. Dylid rhoi hyn yn y bag gwastraff du. 

     

  • Beth i’w wneud gyda chewynnau?

    Dylid rhoi cewynnau yn y bag gwastraff du. Rydym yn cynnig bagiau ychwanegol i aelwydydd sydd:

     

     

    - â chwech neu fwy o breswylwyr

    - yn cynhyrchu gwastraff anifeiliaid anwes a gwellt???

    - yn cynhyrchu lludw tân a llosgwyr coed

    - yn cynhyrchu cewynnau neu gynhyrchion hylendid oedolion wedi eu baeddu

    - yn cynhyrchu gwastraff arall na ellir ei ailgylchu nac ei gyfyngu i 2 fag.

     

    Bydd aelod o’n tîm yn trafod eich anghenion â chi a gellir trefnu ymweliad gan warden: 01446 700111

  • Pam ddylwn i ddefnyddio'r blychau? Maen nhw'n cael eu taflu yn ôl ac yn torri

    Dylai criwiau ddodi’r bagiau a'r cynhwysyddion yn ôl yn drefnus wrth ymyl y ffordd.

     

     

     

    Mae'r holl faterion a godwyd wedi'u trosglwyddo i'r tîm perthnasol, maent wedi atgoffa criwiau o'r safon gwasanaeth a ddisgwylir. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i ddatrys unrhyw faterion.

     

     

     

     

     

    Os byddwch yn tystio staff yn taflu cynhwysyddion, rhowch wybod i ni am y cod post er mwyn nodi’r criw ac ymchwilio ymhellach:

     

     

    • 01446 700111

     

     

  • A ydym yn cael defnyddio bagiau du ar gyfer ein gwastraff cyffredinol o hyd?

    Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff mewn bagiau du. Rydym yn casglu’r gwastraff cyffredinol unwaith pob pythefnos, mae cyfyngiad ar bob aelwyd o ddau fag du fesul pythefnos.

     

    Casgliadau Bagiau Du

     

  • Beth os aiff fy magiau a blychau ar goll?


     Os bydd eich cynhwysyddion yn mynd ar goll, gwiriwch gyda’ch cymdogion i weld a ydynt wedi eu cymryd ar hap, os nad, mae ein bagiau ailgylchu glas a’n blychau gwyrdd ar gael gan nifer o leoliadau yn y Fro am ddim.

     

  • Oni byddai gwylanod a chadnoaid yn torri’r bagiau ar agor?

    Rydym yn cynghori trigolion i olchi’r holl ddeunydd ailgylchu er mwyn gwaredu unrhyw olion bwyd ac rydym yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol mewn cadi y gallwch ei gloi er mwyn atal sborionwyr.