Cost of Living Support Icon

Stryd Fawr y Barri

Casgliad o siopau annibynnol yn y Barri yn darparu ar gyfer ystod o anghenion manwerthu, bwyta, yfed a gwasanaeth.

Mae'r cynnig manwerthu yn arbenigol iawn, ac nid oes llawer o’r cwmniau cenedlaethol mawr yma. Mae nifer o siopau annibynnol o safon yn y ganolfan yn enwedig rhai sy’n gwerthu dillad merched, gwisgoedd, ac ategolion. Mae yna hefyd siopau arbenigol sy'n gwasanaethu'r farchnad gwella a dodrefnu’r cartref. Gellir disgrifio nifer o'r manwerthwyr annibynnol fel busnesau sy’n gyrchfan ac yn atyniad ar gyfer yr ardal.


Ardal Stryd Fawr / Broad Street sydd hefyd yn darparu prif weithgareddau economi gyda'r nos i'r Barri ar ffurf bariau caffi, bwytai, siopau tecawê, a chlybiau nos. 

 

Pedestrians on High Street

  

<< Nôl i Dudalen Canol y Dref