Cost of Living Support Icon

Trefnu Apwyntiad

Gall y Tîm Datrysiadau Tai rhoi cyngor a chymorth ynglyn a'ch sefyllfa dai. Ein nod yw eich atal rhag bod yn ddigartref lle gallwn ni. 

 

Yn ystod eich penodiad, mae'n debygol y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a dogfennau a fydd yn ein helpu i benderfynu a ydych yn gymwys i gael cymorth neu peidio. Mae'n bwysig eich bod yn darparu'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani i'ch swyddog datrysiadau tai asesu eich achos yn llawn.

 

Nodwch: O ganlyniad i weithredu Deddf Tai (Cymru) 2014, rydym nawr yn gallu datrys eich heriau tai drwy sicrhau bod llety i chi yn y sector rhent preifat ghyda thenantiaeth fyrddialol sicr sy'n para o leiaf 6 mis. 

 

Oes angen apwyntiad? 

Welir enghreifftiau isod ble gall fod eisiau apwyntiad:   

  • Hysbysiad a dderbyniwyd gan eich landlord
  • Yn byw mewn llety anaddas ar hyn o bryd
  • Ddigartref o ganlyniad i argynfwng 
  • Pryderon ynghylch fforddiadwyedd 

  

Using a mobile phone

Trefnu Apwyntiad

Mae’n hynod bwysig, os ydych yn wynebu anawsterau wrth gynnal eich tenantiaeth ac mewn peryg o golli eich cartref a bod yn ddigartref, eich bod yn cysylltu â’r cyngor ar y cyfle cyntaf.

 

Mae apwyntiadau yn cael eu cynnal ar yr awr, bob awr o 9.00yb tan 5.00yp o Ddydd Llun i Ddydd Iau. 

 

Nodwch hefyd ein bod yn gweithredu gwasanaeth galw heibio mewn argyfwng ar gyfer unigolion sydd angen cymorth frys. Sicrhewch eich bod yn galw ymlaen a oes angen cymorth brys arnoch.

 

I drefnu apwyntiad, ffoniwch: 

  • 01446 700111

 

Gwybodaeth efallai bydd angen i chi ddarparu

Efallai y gofynnir i chi ddarparu rhywfaint o’r ddoffennaeth ganlynol er mwyn asesu eich sefyllfa

 

Nodwch: Os ydych wedi newydd adael y Lluoedd Arfog neu wedi cael eich rhyddhau o’r carchar bydd angen i chi ddod â’ch papurau rhyddhau.

  • Prawf adnabod:

    - Eich tystysgrif geni

    - Eich pasbort

    - Dogfen yn cadarnhau eich rhif yswiriant gwladol

    - Eich trwydded yrru

    - Eich cerdyn meddygol

    - Bil cyfleustodau diweddar

     

  • Manylion eich incwm: 

    - 3 mis o ddatganiadau banc diwethaf, ar gyfer pob cyfrif agored gan gynnwys cyfrifon cynilo

    - Llythyrau budd-daliadau

    - Slipiau cyflog 3 mis diwethaf (neu 5 wythnos os ydych chi'n cael eich talu'n wythnosol)

     

    Nodwch, bydd angen prawf incwm ar gyfer unrhyw blant dibynnol a gynhwysir ar eich cais am dai.

     

  • Os oes gennych blant: 

    - Tystysgrif geni llawn am pob un plant sydd ar eich cais am dai

    - Unrhyw ddogfennau swyddogol sy'n dangos trefniadau sy'n ymwneud â'r plant

  • Os ydyh chi'n feichiog: 

    - Eich tystysgrif mamolaeth neu nodiadau ysbyty cadarnhau eich beichiogrwydd. Dylai hyn ddangos y dyddiau dyledaus amcangyfrifiedig

    - Llun sgan gyda manylion clir

  • Os ydych mewn eiddo rhent preifat: 

    - Y cytundeb tenantiaeth a roddwyd i chi ar ddechrau'r denantiaeth ac unrhyw gontract arall a roddwyd i chi yn ddiweddarach

    - Cadarnhad amddiffyn blaendal

  • Os ydych chi'n gwerthu'ch cartref: 
    - Cadarnhad gan eich cyfreithiwr o werthu eich eiddo yn manylu werth yr eiddo, swm y morgais sy'n dal heb ei dalu a faint o gyfalaf yr ydych yn debygol o'i dderbyn pan werthir yr eiddo
  • Os cymerir camau cyfreithiol i adfeddiannu'ch cartref: 
    - Gwys y Llys am feddiant gyda manylion y cais am feddiant, y gorchymyn llys am feddiant a gwarant y beilïaid am feddiant os yw'n berthnasol.
  • Os yw'r swyddfa gartref yn delio â'ch cais i aros yn y wlad, neu wedi delio ag un yn y gorffennol  
    - Llythyrau o'r Adran Mewnfudo a Chenedligrwydd yn cadarnhau hyn, ney lythyr yn cadarnhau benderfyniad o eich cais