Siop Cyngor Un Stop
Mae’r Siop Cyngor Un Stop yn cynnig cyngor i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed a’u rhieni neu eu Gofalwyr.  Os ydych yn cael trafferth gartref, mae help ar gael i chi. Maent yn cynnig:
 
- 
Gwasanaeth cyfryngu i'ch helpu i ailgysylltu â’ch teulu 
- 
Asesiad gan y Gwasanaethau Plant a Thai i gael gwybod pa gymorth ychwanegol yr ydych ei angen/eisiau. 
- 
Cymorth tra eich bod mewn llety amgen 
- 
Atgyfeiriadau i lety â chymorth 
- 
Help gyda chael budd-daliadau 
- 
Cynllunio ar gyfer llety parhaol 
Yn ychwanegol, gall eich helpu drwy brosiect Learning4life a gyda Gyrfa Cymru i gyrchu addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddol.
 
236 Heol Holltwn
Y Barri
Bro Morgannwg