Cost of Living Support Icon

Meini Prawf Dyletswydd Digartref

Mae gan bawb hawl i gyngor ar dai gan eu Hawdurdod Lleol, ond os oes angen cymorth pellach arnoch, rhaid i ni ganfod os ydych yn gymwys i dderbyn hwnnw.

 

Yn gyffredinol, i fod yn gymwys i dderbyn cymorth rhaid i chi fel rheol fyw yn y DU a bod hawl gennych i dderbyn arian cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r rheolau cymhwysedd yn eithaf manwl ac argymhellwn eich bod yn ceisio cymorth ar hyn. 

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn datgan eich bod yn ddigartref os nad oes llety ar gael i chi yn y DU neu yn unman arall neu os oes llety gennych ond:

  • Nid yw’n rhesymol i chi fyw yno gyda’r bobl fyddai fel arfer yn byw gyda chi fel aelodau eich teulu. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, plant a gofalwyr.

  • Nad oes hawl gyfreithiol gennych ar yr eiddo am fod gorchymyn llys gennych yn mynnu eich bod yn gadael, neu eich bod yn denant heb hawl i aros lle rydych.

  • Nid yw eich llety yn rhesymol i chi ei feddiannu Er enghraifft, mae mewn cyflwr gwael a thu hwnt i’w atgyweirio, neu na allwch ei atgyweirio am reswm da.

  • Mae peryg trais i chi yn yr eiddo

Mae’r Ddeddf yn datgan eich bod mewn peryg o fod yn ddigartref os ydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf.

 

Beth os ydw i'n ddigartref yn bresennol?

Os ydych chi angen rhywle i aros yn union, bydd rhaid i asesu os ydych chi yn gymwys i cael llety dros dro. Byddwn yn darparu llety dros dro os ydyn yn meddwl eich bod mewn grŵp angen blaenoriaeth.

 

Angen Blaenoriaethol

Ystyriwn fod angen rhoi blaenoriaeth i chi os:

  • Oes gennych blant dibynnol
  • Rydych chi (neu rywun sy’n byw gyda chi) yn feichiog
  • Rydych yn ddigartref oherwydd eich bod wedi ffoi trais domestig (boed chi’n ddyn neu’n ddynes)
  • Rydych yn ddigartref  o ganlyniad i argyfwng megis tân neu lifogydd
  • Rydych rhwng 16-17 oed 
  • Rydych yn gadael gofal a rhwng 18-21 oed ac mewn perygl penodol o rywun yn manteisio yn ariannol neu yn rhywiol arnoch
  • Rydych yn ddigartref wedi gadael y lluoedd arfog
  • Rydych yn agored i niwed am eich bod yn oedrannus, yn dioddef salwch meddwl neu anabledd meddyliol, anabledd corfforol, salwch dwys
  • Wedi gadael carchar – er na roddir blaenoriaeth yn awtomatig bellach i droseddwyr wrth gael eu rhyddhau o ddedfryd droseddol neu lety cadw ieuenctid, bydd Awdurdodau Lleol yn ystyried unrhyw berygl bod yn agored i niwed  amser a dreuliwyd yn y ddalfa. 

Ydych chi’n fwriadol Ddigartref?

Os colloch eich llety yn dilyn gweithred fwriadol y gwyddoch y byddai’n arwain at eich gwneud yn ddigartref byddwn yn ystyried eich bod yn fwriadol ddigartref. Enghreifftiau o hyn fyddai;

  • Fe werthoch/fe ildioch eich cartref pan nad oes angen i chi wneud hynny ac ni lwyddoch i ddod o hyd i lety arall.
  • Ni wnaethoch dalu eich rhent/morgais pan oedd modd gennych i wneud hynny
  • Anwybyddoch gyngor ar dai a fyddai wedi atal i chi golli eich cartref
  • Cawsoch eich troi allan yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

Os tybiwn eich bod yn fwriadol ddigartref ni fyddwn yn rhoi llety parhaol i chi ond byddwn yn cynnig cyngor a chymorth i chi ddod o hyd i lety addas eich hun.

Oes cysylltiad lleol gennych â Bro Morgannwg?

Ystyriwn fod cysylltiad lleol gennych os:

  • Rydych fel rheol yn byw yma, neu wedi byw yma yn y gorffennol, o’ch dewis eich hun.
  • Rydych yn gweithio ym Mro Morgannwg (ac eithrio yn y Lluoedd Arfog)
  • Mae aelod agos o’ch teulu yn byw ym Mro Morgannwg
  • Mae yna amgylchiadau arbennig sy’n eich cysylltu â’r ardal

Os nad oes gysylltiad rhyngoch â’r ardal ond bod cyswllt gennych ag ardal arall byddwn yn atgyfeirio eich cais digartrefedd i’r Cyngor yn yr ardal honno. Os oes mwy nag un Cyngor lle mae gennych gysylltiad lleol â hwy yna gallwch ddewis pa un y byddai’n well gennych ein bod yn cysylltu â hwy.