Cost of Living Support Icon

Newyddion archifol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys straeon newyddion sydd wedi ymddangos o'r blaen ar Dudalen Cartrefi'r Fro.

 

Mehefin 2021

  

Cartrefi'r Fro yn lansio eu prosiect ffitio retro Hybrid

Bydd Catretfi’r Fro yn lansio ei brosiect ôl-ffitio Hybrid ym mis Mai - bydd 57 eiddo yn elwa i ddechrau o'r cynllun hwn lle bydd ail fath o wres yn gweithio ochr yn ochr â'u systemau presennol, i gael rhagor o wybodaeth cliciwch isod

 

Prosiect FfitIo Retro Hybrid Holi ac Ateb

 

 CY FSF banner

 

Mae prosiect Tai’r Fro a Cyfle’n Codi wedi lansio prosiect Cyllid, Sgiliau a Dyfodol yn ddiweddar gyda'r nod o helpu pobl i reoli arian, datblygu sgiliau a sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.

 

 Cyllid, Sgiliau a Dyfodol - mwy o wybodaeth

 

Medi 2021

  

Prosiect Chwaraeon Lleol yn cael hwb buddsoddi cymunedol 

Sports Hut Sign & Shed

Lansiodd Sue Watts siop rydd, Bootaful Sports 4 All, o'i chartref yn y Barri ym mis Mehefin 2020.

 

Bootaful Sports 4 All

 

Mae Bootaful Sports 4 All wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Bro Morgannwg a Pendragon ac mae bellach yn symud o ystafell gefn Ms Watt i sied wedi'i dylunio'n arbennig.

 

 

Prosiect Bioamrywiaeth Gwenog Court

Gwenog Court

Mae Cartrefi'r Fro a Phartneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg yn ymuno i lansio prosiect pontio'r cenedlaethau sy'n gweithio gydag Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau a thrigolion cynllun tai gwarchod Gwenog Court i gynyddu Bioamrywiaeth a gwella'r mannau gwyrdd lleol.

 

Prosiect Bioamrywiaeth Gwenog Court

 

Tachwedd 2021

 

Mae eich credyd cynhwysol yn newid!

O 6 Hydref 2021, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng gan £86.67 bob mis. Roedd hyn yn gynnydd dros dro oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

  

Darganfod beth fyddwch yn cael

 

Os ydych chi yn cael trafferthion ariannol gysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol ar 01446 709312 neu 01446 709588.

 

Cygnor Ariannol

Wythnos Genedlaethol Diogelu yn dechrau 15/11/21.

Mae’r pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol sy’n deillio ohono wedi cael effaith enfawr ar les ac iechyd meddwl pobl. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gofalu am ein gilydd.

 

Os ydych chi'n poeni neu os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi'ch hun neu gymydog, yna dylech ofyn am help.

 

 

 

Darganfyddwch pwy all helpu

 

Cartrefi'r Fro yn lansio eu Prosiect Proffilio Tenantiaid

Dros y 6 mis nesaf bydd holl drigolion y Fro yn derbyn galwad ffôn gan y Timau Tai mewn ynglŷn â'r wybodaeth sydd gennym amdanynt ar ein systemau. 

 

Mae cael data cyfredol ar ein systemau am ein trigolion yn ofyniad cyfreithiol ond gall hefyd ein helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl yn y dyfodol fel y pandemig Covid 19 presennol.

 

 

Prosiect Proffilio Tenantiaid

 

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 – Dweud eich dweud!

Annwyl Denant / Lesddeiliad, hoffem dynnu'ch sylw at y ffaith bod Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) bresennol yn cael ei hadolygu a'i diweddaru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac y caiff ei henwi'n SATC2023. Os hoffech gael ychydig mwy o fanylion am SATC, defnyddiwch y ddolen.

 

  

(SATC) 2023 – Dweud eich dweud!

Mae'r Ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ddiweddaru SATC bellach ar agor ac yn dod i ben ar 3 Awst 2022. Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth, i ddweud eich dweud a helpu i lunio Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 newydd.