Cost of Living Support Icon

CY FSF banner

Cyllid, Sgiliau a Dyfodol

Defnyddiwyd cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau tuag at y Rhaglen Datblygu Cyflogaeth a Sgiliau, a oedd yn canolbwyntio ar helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith, i ddatblygu sgiliau neu wella eu rhagolygon yn y dyfodol.

Myfyrio ar yr FSF – Cyllid, Sgiliau a Dyfodol

Cefnogodd yr FSF lawer o gleientiaid trwy'r hyn a ragwelwyd i fod yn rhaglen tri cham, fodd bynnag, daeth tri cham o daith cleient yn bum cam yn fuan.

 

Wrth ddisgwyl i bobl fod yn agored am eu cyllid, daeth yn amlwg bod llawer o gleientiaid yn cael trafferth gyda materion yn ymwneud ag iechyd meddwl o ganlyniad i straen dyled.

Daeth cynnig cymorth lles ar ffurf sesiynau grŵp ac unigol yn gam cyntaf allweddol taith cleient, cam nad oedd wedi'i ystyried i ddechrau ond a oedd yn allweddol wrth ymgysylltu i ddechrau.

Ar ôl i gleientiaid dderbyn cymorth lles, daeth yn amlwg eu bod yn fwy parod i drafod materion yn ymwneud â dyled ac ymgysylltu â datrys y rhain. Mae'r daith rhwng cam un a dau bellach yn llifo'n berffaith.

 

Wrth edrych ar gyllid, roedd llawer o gleientiaid bellach yn agored i drafod cyfleoedd hyfforddi, ac wrth wneud hynny, llenwi unrhyw fylchau a allai fod ganddynt yn eu sgiliau a'u cymwysterau.

Gan gysylltu ag Opportunity Knocks, roedd llawer o gleientiaid yn gallu elwa ar opsiynau hyfforddi amrywiol o gyflawni eu Cerdyn CSCS ac ennill Cymwysterau Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Lefel 2.

Roedd hyfforddiant yn caniatáu i gleientiaid wella nid yn unig eu hyder, ond rhagolygon cyflogaeth.

Gwnaeth rhai cleientiaid fwy o hyfforddiant arbenigol fel Hyfforddiant Ysgolion Coedwigaeth, a fyddai'n rhoi mantais iddynt dros eraill yn ystod cyfweliadau.

 

Yr hyn y credwyd oedd cam olaf yr FSF oedd 'Dyfodol'. Roedd cefnogi cleientiaid i fynd yn ôl ar y trywydd iawn gyda'u dyfodol yn wahanol i lawer o bobl. Roedd rhai yn barod i ddychwelyd i'r gweithle, ond i eraill, roedd y cam hwn yn daith fwy holistaidd trwy wirfoddoli. Mae stori Kim yn esbonio bod taith holistaidd trwy wirfoddoli yn hanfodol iddi.

 

Cam pump oedd cam olaf yr FSF. Ni ystyriwyd y gefnogaeth yr oedd ei hangen ar y cleientiaid yn ystod y cam hwn, ond fesul un, daeth y galwadau i mewn gan gleientiaid yn gofyn sut byddai eu statws cyflogaeth newydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr oeddent wedi bod yn eu hawlio o'r blaen. Roedd cam pump yn canolbwyntio ar gyngor ynghylch newidiadau i fudd-daliadau o ganlyniad i sicrhau cyflogaeth.

Roedd y rhaglen yn targedu 3 maes pwysig yn bennaf, megis gwella cyllid, datblygu sgiliau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Roedd y Prosiect FSF yn cynnwys 134 o unigolion, ac mae'r prosiect hwn wedi llwyddo i:

  • Helpu 17 o bobl i gael gwaith

  • Cyflawni 150 o ganlyniadau hyfforddiant achrededig

  • Ymgysylltu 204 o weithiau gyda chleientiaid i'w cefnogi i oresgyn rhwystrau personol

  • Helpu 48 o unigolion gyda chyllidebu a chymorth dyledion, gan gynnwys cysylltu â Stepchange, y Dreth Gyngor, Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol (CC) a chwmnïau dyledion

  • Cynorthwyo 15 o bobl i ddiweddaru eu cyfrif CC neu ddechrau hawliad

  • Annog 7 unigolyn i gymryd rhan mewn Gwirfoddoli fel rhan o'u taith

  • Derparu 83 o sesiynau Sgiliau Cyflogadwyedd

  • Cwblhau 60 o ymyriadau i adrannau perthnasol i gynorthwyo unigolion i gynnal eu tenantiaethau a lleihau digartrefedd

Am fwy o wybodaeth am y Prosiect FSF, cysylltwch â: Lianne

  • 07522710254