Cost of Living Support Icon

Rhaglen Cymdogaethau Cysylltiedig, Glanach, Gwyrddach ac Iachach Cartrefi’r Fro

Yn gweithio gyda'ch Rheolwyr a Chynorthwywyr Tai lleol, a’r tîm Buddsoddi ac Ymgysylltu Cymunedol, mae Tîm Cartrefi'r Fro yn gweithio  i gyflawni eich Cynlluniau Gweithredu’r Gymdogaeth Leol

 

Eu nod yw i helpu eich cymdogaethau i ddod yn:

  • Fwy Cysylltiedig, drwy helpu pobl i fynd ar-lein

  • Glanach drwy ddarparu gwell cyngor a chymorth storio ac ailgylchu gwastraff

  • Gwyrddach drwy weithio gyda chi i dyfu bwyd a phlannu'n lleol

  • Mwy Iach drwy gynnig mentrau iechyd a lles gan gynnwys mynediad i fwyd maethlon, cyngor addysg a hyfforddiant cyflogaeth, gwirfoddoli a gweithgareddau corfforol

 

Byddwn yn dechrau'r rhaglen hon yn eich ardal leol gyda'r Prosiect Llechen Lân, yn gweithio gyda'r gymuned leol i gael gwared ar wastraff gormodol, nwyddau diangen a chynnal ymarferion ymgynghori i weld beth yr hoffech ei weld yn digwydd yn eich ardaloedd lleol.

 

Byddwn yn recriwtio hyrwyddwyr lleol ac yn darparu cyllideb o hyd at £10,000 yr ardal i'r gymuned leol ei wario.

 

Y Rhaglen Cymdogaethau Cysylltiedig, Glanach, Gwyrddach ac Iachach yw ein hymrwymiad i chi i helpu i gyflawni newidiadau yn eich ardaloedd lleol drwy weithio gyda chi.

 

CleanSlate-Project-Welsh-logoCam 1 - Project Llechen Lân

Dyma gam cyntaf y prosiect sydd â’rnod o gael llechen lân a dechrau o’r newyddi reoli’r gymdogaeth.

 

Beth mae’r prosiect llechen lân yn ei olygu:

  • Gwaredu gwastraff o ran yr holl eitemau yn ycynteddau cymunedol a’r gerddi a nwyddau diangen.

  • Clirio llystyfiant, gan gynnwys toriadau, tynnu mierineu chwyn.

Bydd y Prosiect Llechen Lân yn helpu i:  

  • Adfer ymdeimlad o falchder i’r ardal

  • Er mwyn sicrhau y glynir wrth reoliadau tân achytundebau tenantiaeth

  • Dilyn y polisi o ddim goddefgarwch o ran storio eitemauyn y cynteddau cymunedol

  • I gael gwared ar yr holl wastraff

Cam 2 - Hyrwyddwyr Ystadau a Chyllidebu Cymunedol 

Bydd yr ail gam hwn yn cynnwys ymgynghori â phreswylwyr a chael adborth ar Gam 1 a’r hyn yr hoffent ei weld yn eu hardal hwy i’w helpu fod yn fwy Cysylltiedig, Glanach, Gwyrddach ac Iachach wrth gyflwyno’r syniad o gyllidebu cyfranogol.

 

  • Bydd yn ddigwyddiad cymunedol, gwahoddir pob preswylydd.

  • Gofynnir cyfres o gwestiynau am yr ardal leol a pha newidiadauyr hoffai trigolion eu gweld.

  • Bydd y cynlluniau Cymdogaeth lleol a’r addewidion a’raddunedau cymdogaeth diweddar yn cael eu harddangos,a bydd trigolion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eucynnydd a bydd.

  • Ymgyrch i recriwtio nifer o Hyrwyddwyr Ystadau lleol a fydd yn gweithio gyda swyddogion i ddatblygu’r gwaith yn yr ardal leol.


Hyrwyddwyr Ystadau

Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn: 

  • Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio gyda’r Rheolwyr Tai, Cynorthwywyr Tai y Swyddogion Buddsoddi Cymunedol ac unrhyw grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr er mwyn helpu i weithredu’r newidiadau y mae’r gymuned wedi gofyn amdanynt.

  • Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio i sicrhau y caiffy gyllideb gyfranogol a ddyrennir ar gyfer yr ardal leol yncael ei gwario yn unol â gofyn trigolion lleol.

  • Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio gyda’r rheolwyr a’r swyddogion ac unrhyw grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr i roi adborth i’r gymuned leol ar ddatblygiadau a diweddariadau yn yr ardal leol.


Cyllidebu Cyfranogol

Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio gyda'r Rheolwyr Tai, Cynorthwywyr Tai, y Swyddogion Buddsoddi Cymunedol ac unrhyw grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr er mwyn helpu i weithredu'r newidiadau y mae'r gymuned wedi gofyn amdanynt.

 

Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio i sicrhau y caiff y gyllideb gyfranogol a ddyrennir ar gyfer yr ardal leol ei gwario yn unol â gofynion trigolion lleol Bydd yr Hyrwyddwyr Ystadau yn gweithio gyda'r rheolwyr a'r swyddogion ac unrhyw grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr i roi adborth i'r gymuned leol ar ddatblygiadau a diweddariadau yn yr ardal leol.

 

Yn yr ymgynghoriad bydd y swm arian sydd ar gael i’r ardal leol i’w helpu i ddod yn fwy Cysylltiedig, Glanach, Gwyrddach ac Iachach yn cael ei ddatgelu.Gallai’r swm fod yn unrhyw beth hyd at 10k fesulardal yn dibynnu ar anghenion yr ardal.

Cam 3 - Cyflawni a rhoi ar waith

Cyflawnir y prosiect dros gyfnod o 2 flynedd ac mae’n cyd-fynd â’n cynlluniau gweithredu cymdogaethau lleol.


Cyflawni a rhoi ar waithBydd y tîm lleol gan gynnwys Rheolwyr, Swyddogion, Hyrwyddwyr Ystadau ac unrhyw Grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf drwy gylchlythyrau lleol a chyfarfodydd lleol.

Cam 4 - Gwerthusiad adolygu a’r camau nesaf

Gwahoddir preswylwyr i werthuso’r prosiect, gan weithiogyda’r tîm tai, grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr a HyrwyddwyrYstadau.

 

Gofynnir i breswylwyr ystyried beth ddylai’r camau nesaffod o ran parhau dod yn fwy Cysylltiedig, Glanach, Gwyrddachac Iachach.

 

I gael rhagor o wybodaeth am pryd mae’r Llechen Lân - Cysylltiedig, Gwyrddach Glanachac Iachach yn dod i’ch ardal cysylltwch â’chrheolwyr cymdogaeth.

 

Gibbonsdown a Treharne


Dwyrain y Barri, Dinas Powys a Phenarth


Gorllewin y Barri, Llanilltud Fawr, Y Rhws a SainTathan

 

neu

 


Buttrills, yr Ystâd Ganolog a Colcot