Cost of Living Support Icon

Anwedd a Llwydni

Gweler y ddogfen lawn y gallwch ei chadw yn y ddolen isod:

Taflen Ffeithiau

Beth yw anwedd?

Mae gwlybaniaeth yn yr awyr drwy’r amser, hyd yn oed pan na allwch ei gweld.condensation

Os yw'r aer yn oeri, ni all ddal yr holl wlybaniaeth ac mae diferion bach o ddŵr yn ymddangos ar arwynebau oer. Byddwch wedi sylwi arni pan allwch chi weld eich anadl ar ddiwrnod oer neu os

 yw'ch drych yn niwlo yn yr ystafell ymolchi neu pan fydd anwedd yn ymddangos ar ffenestri.

 

Mae'n digwydd fel arfer yn ystod tywydd oer ac yn wahanol i fathau eraill o leithder, nid yw'n gadael ôl, fodd bynnag, bydd yn gadael ardaloedd o lwydni. Chwiliwch amdani mewn corneli, ar ffenestri neu'n agos atyn nhw, y tu ôl neu’r tu mewn i ddodrefn, cypyrddau ac unrhyw beth a allai fod yn gorffwys neu'n hongian ar waliau fel lluniau. Yn aml mae'n ffurfio ar waliau a/neu mewn mannau heb eu cynhesu.


Pam mae gormod o wlybaniaeth yn y tŷ?

Yn ystod ein trefn ddyddiol gallwn ychwanegu mwy nag 11 litr (20 peint) o wlybaniaeth i aer ein cartrefi, daw hyn o’r canlynol:

  • Tân agored gan gynnwys gwresogyddion fflam nwy

  • Cael bath neu gwod

  • Defnyddio peiriannau golchi dillad, sychwyr a pheiriannau golchi llestri

  • Coginio

  • Ac anadlu!

Os na all y lleithder hwn ddianc bydd yn cronni ac yna'n dod o hyd i fan oer yn y tŷ. Pan ddaw i gysylltiad ag arwyneb oer bydd yn cyddwyso (troi yn ddŵr).


Gall gwlybaniaeth sy'n cael ei chynhyrchu mewn cegin neu ystafell ymolchi gylchredeg o gwmpas y tŷ a gorffwys mewn ystafell oerach fel cynteddau neu fynedfeydd. Mae problemau'n waeth yn y gaeaf pan fydd llai o awyru a bydd arwynebau y tu allan ar eu hoeraf.

 

Gall lleithder ddod hefyd o’r canlynol

  • Lleithder codi* - oherwydd nad oes cwrs atal lleithder neu mae'n aneffeithiol

  • Teils neu lechi to wedi'u difrodi*

  • Rhwystr mewn cafnau*

  • Pibellau gwastraff neu orlifo sy'n gollwng*

Yn aml, bydd yr achosion hyn o leithder yn gadael “ôl llinell” neu ag ymyl diffiniedig.

 

*Cofiwch fod y materion hyn yn strwythurol a bod y cyfrifoldeb ar y Cyngor. Cysylltwch â ni'n uniongyrchol os yw'r lleithder yn deillio o unrhyw un o'r rhesymau hyn - Cysylltwch ag UnFro ar

  • 01446 700 111


Sut i osgoi anwedd

Mae tri phrif gam y gellir eu defnyddio i helpu i leihau anwedd yn eich cartref:

  • Cynhyrchu Llai o Wlybaniaeth

    Defnyddiwch gaeadau ar sosbenni a pheidiwch â gadael y tegell yn berwi

    Osgowch ddefnyddio gwresogyddion paraffin a nwy potel cludadwy heb ffliw gan eu bod yn rhoi gormod o wlybaniaeth yn yr awyr.


    Os oes rhaid i chi sychu dillad dan do, sychwch nhw yn yr ystafell ymolchi gyda'r drws ar gau a'r ffenestr ar agor neu gyda'r ffan echdynnu ymlaen.
    Rhowch beiriannau sychu dillad i awyru i'r aer allanol oni bai eu bod o fath hunan-gyddwyso.

  • Awyru i ddileu gwlybaniaeth 

    Cadwch ffenestr fach yn gilagored a pheiriant awyru ar agor neu ffan ymlaen pan fydd rhywun mewn ystafell.


    Awyrwch geginau ac ystafelloedd ymolchi pan fyddant yn cael eu defnyddio trwy agor ffenestri yn ehangach neu ddefnyddio ffan adfer gwres a reolir gan leithder. (Byddant yn dod ymlaen yn awtomatig pan fydd yr aer yn llaith wrth gadw'r gwres yn yr ystafell)
    Caewch ddrysau cegin ac ystafell ymolchi, hyd yn oed os oes ffan echdynnu. Bydd hyn yn atal gwlybaniaeth ormodol rhag cyrraedd ystafelloedd eraill - yn enwedig ystafelloedd heb eu gwresogi, fydd yn oerach ac yn fwy tebygol o gael anwedd.

     

    Bydd dadleithydd yn tynnu'r wlybaniaeth felly os yw cynhyrchu gormod o wlybaniaeth yn anochel, gallai hyn fod yn ddewis arall a bydd yn sicr yn atal y sborau llwydni rhag ffynnu.

  • Lleihau amrywiadau tymheredd rhwng ystafelloedd drwy inswleiddio, atal drafftiau a gwresogi eich cartref 

    Yn ystod tywydd oer, gwnewch yn siŵr bod rhywfaint o wres lefel isel ymlaen drwy'r dydd, hyd yn oed pan nad oes neb yn y cartref.


    Cadwch bob rheiddiadur ymlaen, ond gostyngwch y tymheredd drwy ddefnyddio thermostat y rheiddiadur mewn unrhyw ystafelloedd gwag.

    Os ydych yn cael anawsterau gyda chostau gwresogi, ffoniwch ein Tîm Cyngor Ariannol:

    • 01446 709588 / 146 / 312

Gofalwch!

  • Peidiwch â rhwystro peiriannau awyru sefydlog Do Not Sign
  •  Peidiwch â rhwystro simneiau yn llwyr. Yn hytrach gadewch dwll tua dwy fricsen o ran maint a gosodwch rwyll lwfrog drosto
  • Peidiwch ag atal awelon mewn ystafelloedd lle mae popty neu wresogydd llosgi tanwydd - e.e tân nwy
  • Peidiwch ag atal awelon ar ffenestri yn y gegin neu'r ystafell ymolchi


Beth os oes gen i lwydni?

Yn gyntaf, dylech drin neu ddileu unrhyw lwydni sydd gennych yn eich cartref, ac yna ymdrin â'r broblem anwedd sylfaenol. Os gallwch chi osgoi'r anwedd, ni ddylai'r llwydni ailymddangos. I ladd a dileu llwydni, sychwch yr arwynebau dan sylw gyda golch ffwngladdol sydd â rhif cymeradwyaeth yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch. Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau. mould

 

Gall tarfu ar lwydni drwy hwfro carpedi a defnyddiau gynyddu'r risg o broblemau anadlu. Gallwch hefyd brynu paent ffwngladdol i helpu i atal llwydni rhag ailymddangos ar arwynebau oer fel waliau sy'n wynebu'r gogledd.

 

*Cofiwch y gallai defnyddio dull rhagweithiol o reoli anwedd, llwydni a lleithder helpu i atal cyflyrau iechyd hirdymor*

Os oes gennych broblemau lleithder yn eich eiddo, neu os yw’r problemau’n parhau ar ôl cymryd y camau uchod, ffoniwch UnFro ar y rhif isod

  • 01446 700 111