Cynhaliwyd garddwest yng Nghynllun Tai Gwarchod Crawshay i ddathlu'r prosiect pontio'r cenedlaethau llwyddiannus rhwng gwirfoddolwyr o Vale Plus Extra, tenantiaid o'r cynllun yn Llanilltud Fawr a phlant o Flwyddyn 5 Ysgol y Ddraig.

Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio gyda Thîm Plismona Cymdogaethau Bro Morgannwg drwy gydol yr Haf a'r Hydref.
Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych; plannu, dad-chwynnu, tacluso, dyfrio a gwneud celf a chrefftau ar gyfer yr ardd. Mae pawb wedi gweithio'n wych gyda'i gilydd ac wedi mwynhau plannu'r hadau a'u gwylio yn tyfu. Mae’r tenantiaid wedi gallu mynd â ffrwythau a llysiau gartref ac mae tenantiaid Cynllun Tai Gwarchod Crawshay wedi bod yn mwynhau cynnyrch yn eu digwyddiadau te prynhawn cymdeithasol wythnosol.
Nod y prosiect yw atal twyll fasnachwyr rhag targedu aelodau agored i niwed o'n cymuned trwy gynorthwyo tenantiaid a gweithredu fel gwarcheidwaid cymunedol, gan gadw llygad ar breswylwyr ardal Llanilltud Fawr.

Aeth Maer Llanilltud Fawr i’r digwyddiad a chyflwynodd dystysgrifau i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed i wneud y prosiect yn llwyddiant. Dywedodd Sheralee Baldwin, cydlynydd y cynllun "Mae mor hyfryd gweld y gwirfoddolwyr yn dod bob wythnos ac yn gwneud gwahaniaeth mor enfawr i'r ardd. Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran yr holl denantiaid sydd wir yn gwerthfawrogi'r gwaith caled wedi’i wneud a'r ardd hardd y maen nhw'n edrych allan arni".
Diolch yn fawr i'r Big Fresh Catering Company a ddarparodd y bwffe anhygoel a fwynhawyd gan fwy na 80 o bobl a aeth i’r arddwest.