Cost of Living Support Icon

 

Lansio Cynllun Gwirfoddoli Newydd yn y Fro

Mae cyllid grant BIP Caerdydd a’r Fro gan Lywodraeth Cymru, at ddibenion gwella iechyd wedi caniatáu i Gartrefi’r Fro ddatblygu Gwerth yn y Fro. Fel y cynllun Bancio-Amser fel ag yr oedd yn y Fro, mae’r wefan yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli mewn sefydliadau lleol ac yn gyfnewid yn eu gwobrwyo am eu hamser.

 

Wrth gynnig gwobrau i wirfoddolwyr, mae hyn wedi mynd i'r afael i ryw raddau â'r argyfwng costau byw, lleihau ynysigrwydd cymdeithasol a chynnig lle cynnes i wirfoddolwyr ymweld ag ef yn ystod eu rolau gwirfoddoli ac wrth hawlio’u gwobrau os ydynt yn dewis gwneud hynny.

 

Lansiwyd y wefan fis Hydref 2022 ac mae’n siop un stop ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau partner. Mae'n rhoi manylion cyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi i bobl sydd wedi treulio amser yn gwirfoddoli yr opsiwn i gyfnewid gwobrau am eu hamser. Gall gwobrau fod yn unrhyw beth o baned o goffi a darn o gacen i driniaeth harddwch neu barsel o bethau ymolchi ac mae gan bob gwirfoddolwr yr opsiwn o 'roi ymlaen' eu gwobrau os ydynt yn dewis gwneud hynny.

 

Y gwahaniaeth rhwng Gwerth yn y Fro a'r hen gynllun bancio amser yw bod hwn yn economi gylchol. Mae'r holl gyfleoedd a'r gwobrau gwirfoddoli gyda sefydliadau sydd wedi eu lleoli ym Mro Morgannwg.

 

Mae'r tîm y tu ôl i Gwerth yn y Fro hefyd wedi partneru gyda chyrsiau yn y Fro i roi'r opsiwn i wirfoddolwyr ddilyn cwrs hyfforddi achrededig am ddim – Cyflwyniad i Wirfoddoli. Ac ynghyd â grŵp gwirfoddoli Cyfeillion Digidol, grŵp gwirfoddoli Cartrefi’r Fro eu hunain, rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant digidol mwy anffurfiol yn ein Canolfan yn Aberaeron Close, y Barri.

 

Yn seiliedig ar adborth gan wirfoddolwyr presennol, rydym wedi partneru gyda busnesau lleol gwych i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a gwobrau sy'n union ar stepen ein drws. Mae'r cynllun hwn hefyd ar agor i'r cyhoedd felly gall unrhyw un gymryd rhan.

 

 

Rhoi Ymlaen

Er bod y rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn mwynhau hawlio eu gwobrau, mae rhai yn hoffi cynnig eu gwobrau nas defnyddiwyd i bot canolog i gael eu rhoi ymlaen i sefydliadau eraill lle gallant wneud gwahaniaeth.

 

Yn ystod yr ymgyrch Rhoi Ymlaen gyntaf gwelwyd trigolion Hostel Tŷ Iolo yn y Barri yn derbyn llawer o wobrau rhodd - o reidiau beic, i brydau bwyd a diodydd. Wrth i'r gwobrau hyn gael eu cyflwyno mewn pryd ar gyfer Gwyliau'r Pasg, roedd preswylwyr yn gallu cynllunio gweithgareddau gyda'u plant ac arbed rhywfaint o arian wrth ddefnyddio'r gwobrau rhodd.

Gift it Forward

Gift It Forward VintheV

Volunteer Accredited Training Certificates

Volunteering Training

Cyflwyniad i Wirfoddoli

Gan weithio mewn partneriaeth â Dysgu Oedolion yn y Gymuned rydym yn falch o allu cynnig hyfforddiant achrededig am ddim i unrhyw un sy'n ymwneud â Gwerth yn y Fro.

 

I'r rhai sydd ar daith yn ôl i fyd gwaith, mae'r cwrs achrededig hwn yn rhoi'r hanfodion iddynt ynghylch Gwasanaeth Cwsmeriaid, Diogelu, Iechyd a Diogelwch ac Adeiladu Hyder, ond mae llawer o bobl yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwn dim ond i adnewyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y meysydd hyn.

 

Lianne Young

Os hoffech fwy o wybodaeth am Gwerth yn y Fro cysylltwch â:

 

 

Value in the Vale_Logo_Digitalvale homes logoUHB LogoV&V QR Code