Cost of Living Support Icon

Cymryd Rhan

 

Mae Cartrefi'r Fro yn awyddus i sicrhau ei fod yn gwrando ar ei denantiaid a'i lesddeiliaid ac yn gweithio gyda nhw, gan greu cyfleoedd i wella a datblygu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. 

 

Rydym newydd lansio ein Compact Tenantiaid. Mae Compact Tenantiaid Cartrefi’r Fro yn gytundeb rhwng Cartrefi’r Fro, ei denantiaid/lesddeiliaid a deiliaid contract ac mae'n ymdrin â sut mae eu lleisiau a'u barn yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi a sut y cymerir camau i helpu i gyflawni canlyniadau gwasanaeth gwell yn seiliedig ar eu hanghenion penodedig. Gweler isod:

 

Compact Tenantiaid

 

Gelwir y broses o gynnwys tenantiaid a lesddeiliaid wrth wneud penderfyniadau am y gwasanaethau a gynigiwn, yn Gyfranogiad Tenantiaid

 

Credwn fod ymgysylltu a gwrando ar ein tenantiaid a'n lesddeiliaid yn allweddol i gael pethau'n iawn, gan mai ein tenantiaid/lesddeiliaid yw'r arbenigwyr ar sut mae ein gwasanaethau'n cael eu derbyn.

 

Yn ein barn ni, dylai mewnbwn tenantiaid a lesddeiliaid fod yn rhan ganolog o'r ffordd rydym yn rheoli ein cartrefi, ein heiddo lesddaliad a'n tenantiaethau.   Rydym yn awyddus i greu cyfleoedd i denantiaid/lesddeiliaid weithio gyda'n timau i gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

Mae nifer o ddiffiniadau o Gyfranogiad Tenantiaid ac Ymgysylltu â Thenantiaid, darperir diffiniad a ddefnyddir yn helaeth gan TPAS Cymru, "Mae Cyfranogiad Tenantiaid  yn ffordd i denantiaid a landlordiaid rannu syniadau a chydweithredu. Mae'n ffordd i'r tenant fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau sy'n digwydd yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaeth tai".

 

TPAS yw'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid a gellir dod o hyd i fanylion am yr hyn a wnânt ar eu gwefan:

 

tpas.cymru

 Dogfennau Defnyddiol Cyfranogiad Tenantiaid

 

get involved leaflet cym

Cymerwch ran a dweud eich dweud ar wasanaethau Cartrefi’r Fro

Cymryd Rhan Taflen

tenant training programme cym

Hyfforddiant sefydlu tenantiaid newydd a hyfforddiant ar gyfer Grwpiau Preswyl, y Gweithgor, Fforwm Dylunio Ansawdd a'r Aseswyr Ansawdd Gwasanaeth

Rhaglen Hyfforddi Cynnwys Tenantiaid

 

jargon buster cym

Croeso i'ch Canllaw Jargon ac Acronymau sy’n esbonio’r rhai y gallech ein gweld ni’n eu defnyddio

Egluro’r Jargon

tenant engagement strategy cym

Ein gweledigaeth ar gyfer ymgysylltu â'n tenantiaid a lesddeiliaid

Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliaid

 

Sut gallwch chi gymryd rhan? 

Ar hyn o bryd mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gymryd rhan, gallwch fod yn rhan o'n:

 

  • Get-Involved@valeofglamorgan.gov.uk

  

  • Grwpiau Tenantiaid a Phreswylwyr

    Mae gennym dros 60 o denantiaid yn cymryd rhan reolaidd wrth drafod materion lleol ar ystadau ac yn eu cymunedau, gan gynnwys amodau ystadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyfleusterau, parcio a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar y newidiadau ymarferol y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn.

     

    Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

     

    Cymdeithas Trigolion Colcot - 12 Mawrth 4-5pm yn Neuadd Gymunedol Colcot, Y Barri. Cynhelir pob un ar ddydd Mawrth.

    Cymdeithas Trigolion Star - 5 Mawrth 4:30-6pm yn y POD St Luke’s Avenue, Penarth. Cynhelir pob un ar ddydd Mawrth.

    Cymdeithas Trigolion Redlands - 4 Mawrth 10:30-12 canol dydd yn ardal lolfa Tŷ Redlands, Penarth. Cynhelir pob un ar ddydd Llun

    Grŵp Trigolion Dinas Powys - 18 Mawrth 2-4pm yn Nhŷ Youldon, Fairoaks, Dinas Powys. Cynhelir pob un ar ddydd Llun

     

    Cynllun Llys Longmeadow - Dydd Llun 11 Mawrth 2024 i gyd yn rhedeg rhwng 11-1pm. Cynhelir yn ardal y Lolfa yng Nghynllun Gwarchod Longmeadow, Y Bont-faen.

  • Cartrefi Bro – Gweithgor Tenantiaid

    Mae'r grŵp hwn yn cynnwys 20 o denantiaid sy'n byw mewn ardaloedd ledled Bro Morgannwg. Mae'n grŵp ymbarél o denantiaid sy'n cynnwys gwahanol grwpiau preswylwyr/unigolion sy'n cwrdd bob 6-8 wythnos i ystyried Materion Strategol sy'n effeithio ar eu gwasanaethau tai e.e. monitro'r modd y darperir y Strategaethau Cyfranogiad a Lesddeiliaid Tenantiaid, polisïau newydd, perfformiad, gwasanaethau a mentrau newydd.

     

    Dyddiadau'r cyfarfodydd ar gyfer y Gweithgor Tenantiaid yw:

    Cynhelir pob un ar ddydd Iau 10-1pm yn Ystafell Dwnrhefn, y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri.

    21 Mawrth, 23 Mai, 18 Gorffennaf, 12 Medi, 7 Tachwedd. 

    Bydd ein Digwyddiad Nadolig Blynyddol ym mis Rhagfyr yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 12fed, 11-2pm.

  • Y Fforwm Dylunio Ansawdd (QDF)

    Mae’n cynnwys 6 thenant sy'n goruchwylio canllawiau/rhaglen waith Safonau Ansawdd Tai Cymru a phrosiectau gwaith mwy  sy'n cael eu cynnal gan gynnwys ymweliadau â phrosiectau Adeiladu Newydd.

     

    Dyddiadau'r cyfarfodydd QDF yn y dyfodol:

    Cynhelir pob un ar ddydd Iau 1-3pm yn yr Alpau, Gwenfô.

    7 Mawrth 2024.

  • Fforwm Tai Gwarchod

    yn cynnwys trigolion o 5 Cynllun Tai Gwarchod Cartrefi’r Fro sy'n cyfarfod bob dau fis i drafod materion yn ymwneud â Thai Gwarchod a materion lleol eraill sydd o ddiddordeb.

     

    Dyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer y Fforwm Tai Gwarchod:

    Cynhelir pob un ar ddydd Llun 12-3pm yn Llys Gwenog, Y Barri.

    26 Chwefror 2024.

  • Grŵp Craffu Tai a Chymunedau
    Mae'n cynnwys 4 aelod tenant o'r Gweithgor, uwch aelodau staff Tai a Chynghorwyr sy'n adolygu perfformiad ac yn ystyried cynigion a syniadau prosiect newydd
  • Grŵp Staff/Tenantiaid FestiVale
    mae'r grŵp hwn yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau newydd ar gyfer y digwyddiad Blynyddol FestiVale Tenantiaid a gynhelir fel arfer ym mis Awst.   Maent yn cynorthwyo mynychwyr yn y digwyddiad i gwblhau Arolygon Boddhad, darparu syniadau ar sut y gellir gwella cymunedau ac ardaloedd a sicrhau bod pawb sy'n mynychu yn cael diwrnod allan hyfryd.   Mae'r digwyddiad hwn am ddim i bob tenant a'i deulu agos a darperir byrbryd/diod am ddim ar y safle drwy system dalebau i bawb.
  • Ddarparu adborth mewn arolygon a holiaduron
    Ni all pawb roi o'u hamser i gymryd rhan yn y gwahanol grwpiau sydd ar gael.  Ond gallwch barhau i roi eich barn ar ein gwasanaethau presennol ac arfaethedig drwy lenwi holiaduron ac arolygon pryd bynnag y gallwch.

 

I gymryd rhan yn unrhyw un o'n mentrau cyfranogiad tenantiaid neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: 

Heather Powney

Heather Powney

Uwch Swyddog Cyswllt Tenantiaid ar

 

Mark Ellis

Mark Ellis

Swyddog Cyfoethogi Cymunedau ac Ymglymiad

 

 

Shani Payter

Shani Payter

Swyddog Cyfoethogi Cymunedau ac Ymglymiad

 

 

 

 

Datblygiadau yn y Dyfodol 

Wrth symud ymlaen byddwn yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i denantiaid gymryd rhan gan gynnwys dod yn Gyfaill Beirniadol drwy hyfforddiant fel Asesydd Ansawdd Gwasanaeth (SQA) a hyfforddiant fel Siopwyr Dirgel.

  

  • Beth yw Aseswyr Ansawdd Gwasanaethau (SQAs)

     

    Bydd SQAs yn ein helpu i graffu'n fanwl ar y gwasanaethau a ddarparwn, gan ddarparu her adeiladol o ran Pam a Sut y caiff gwasanaethau eu darparu fel y maent.  

     

    Bydd y math o wasanaethau y bydd yr SQA yn craffu arnynt yn cael ei bennu yn ôl lefel y cwynion a gawn gan feysydd gwasanaeth.  Bydd yr SQA yn gwneud argymhellion ar yr hyn sydd angen ei newid a pham, gan ymdrin â'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda. Bydd hyn yn allweddol i alluogi staff Cartrefi'r Fro i ddarparu gwell gwasanaethau i'n tenantiaid, gan ddarparu Gwerth am Arian a'u cyflwyno mewn Ffordd Amserol.

  • Beth yw siopwyr dirgel?

    Bydd siopwyr dirgel yn cwblhau ymarferion "Siopa Dirgel" o bryd i'w gilydd ac yn profi sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu mewn gwirionedd ac a ydynt yn cael eu darparu i'r safon gywir ac, os nad ydynt, pa newidiadau sydd eu hangen.