Cost of Living Support Icon

Cynllun Gweithredu Cymdogaeth

Ar y dudalen hon fe welwch ddolenni i gynlluniau gweithredu Cymdogaeth sy'n gosod y blaenoriaethau ar gyfer gwella'ch ardal dros amser.

 

Mae pob Cynllun Cymdogaeth yn nodi ystod o flaenoriaethau lleol penodol sy'n bwysig i bobl sy'n byw ar yr ystâd. Mae’r cynllun yn ystyried ystod eang o wybodaeth gan gynnwys canlyniadau ymgynghori â thrigolion, canlyniadau’r arolwg boddhad tenantiaid ar raddfa fawr, data economaidd-gymdeithasol gan gynnwys iechyd, cyflogaeth a thlodi ynghyd â themâu cylchol a nodwyd gan staff.

 

Gyda'i gilydd, mae'r wybodaeth hon yn siapio blaenoriaethau sy'n effeithio ar fywydau pobl, gan gynnwys materion amgylcheddol, hyrwyddo cymunedau gweithredol sy'n mynd i'r afael â throsedd a diogelwch.

 

Nodir nifer o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r materion blaenoriaeth ar yr ystâd a bydd y rhain yn cael eu cyflawni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn gwella’r gymdogaeth a gwneud gwahaniaeth i fywydau tenantiaid.