Cost of Living Support Icon

Ewch yn Ddigidol

A wyddoch chi fod gan gartrefi’r Fro grŵp gwirfoddolwyr eu hunain sy'n helpu preswylwyr i fynd ar-lein.

 

Mae Cyfeillion Digidol yn grŵp o wirfoddolwyr sy'n cynnig eu hamser yn garedig i gefnogi pobl i chwalu'r heriau sydd o’u blaenau o ran mynd ar-lein.

 

Cyflwynir sesiynau o adeilad ein Hyb yng Nghlôs Aberaeron, y Barri yn ogystal ag o fewn rhai o'n cynlluniau gwarchod byw'n annibynnol. 

 

Digidol yn Hyb Aberaeron

Cynhelir sesiynau dysgu digidol yn yr Hyb bob bore Llun ac maent yn cynnig cymorth i ddysgwyr i'w helpu i fynd ar-lein. (Rhaid cadw lle ymlaen llaw). Mae rhai sesiynau wedi cefnogi dysgwyr i greu eu cyfeiriad e-bost eu hunain a nodi negeseuon e-bost sbam, tra bod eraill wedi dysgu'r ffordd orau i bobl ddefnyddio Google Docs a Teams.

 

Mae llawer o ddysgwyr yn dod â'u dyfeisiau digidol eu hunain, fodd bynnag, gallwn gynnig iPad, cyfrifiaduron llechen, Chromebooks a chyfrifiaduron bwrdd gwaith.

Bydd Gwirfoddolwyr Cyfeillion Digidol hefyd yn cyflwyno gwersi yn addas i rai gofynion penodol dysgwyr.

 

Sut i archebu ymlaen

 

  • Tystiolaeth gan wirfoddolwr

    Gan fod gen i ddiddordeb mewn gwirfoddoli, rydw i'n mynychu'r dosbarth ar fore Llun, 10.00am tan 12.30pm, i wella fy sgiliau digidol. Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal yn Hyb Aberaeron ac mae'n ddosbarth bach o lai na 10 o ddysgwyr - gall fod gan bobl sgiliau neu gallant fod yn ddechreuwyr pur.  Mae ‘na awyrgylch hamddenol - paned a sgwrs fach - ond mae'r grŵp yn cael ei arwain gan diwtor profiadol sy'n sicrhau bod pawb yn canolbwyntio ar darged ar gyfer y tasgau y diwrnod hwnnw.

     

    Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad gyda sgiliau bysellfwrdd cyffredinol ond mae'r tiwtor yn dda iawn gyda’i sgiliau TG a bydd yn cynorthwyo'r dysgwyr yn eu gallu i lywio eu ffordd o amgylch eu dyfeisiau - o ffôn clyfar, iPad neu gyfrifiadur.  Mae'r tiwtor yn cael gwared ar unrhyw bryder ac yn caniatáu i'r grŵp fwynhau gweld beth mae eu dyfeisiau yn gallu ‘neud. Yn bersonol, mae'r dosbarth wedi gwella fy hyder nid yn unig gyda fy sgiliau ond hefyd drwy fod yn rhan o grŵp sydd â diddordeb cyffredin. 

  • Tystiolaeth gan ddysgwr 

    Fy enw i yw Vivien ac rwy'n 72 oed. Yn gynharach mewn bywyd es i ganolfan hamdden Holm View i ennill fy nhrwydded yrru Ewropeaidd ar gyfer cyfrifiadura. Ar ôl ymddeol fe wnes i ddiflasu ac ymuno â bwrdd trigolion Gibbonsdown.  Yno ces i fy nghyflwyno i'r gweithgor, sydd wir wedi rhoi bywyd newydd i fi. Roedd yn rhaid i fi ddysgu'r holl sgiliau cyfrifiadurol newydd y byddai eu hangen arnaf. Ymunais â Hyb Gibbonsdown yng Nghlôs Aberaeron, lle rydw i wedi cwrdd â phobl wirioneddol wych sydd wedi gwneud fy myd yn lle llawer gwell. Yn ddiweddar, rydw i wedi cyflawni fy nhystysgrif ar gyfer Cadw'n Ddiogel Ar-lein, Zoom, Cyflwyniad i Google Docs, ac yn olaf Cyflwyniad i Wirfoddoli (wedi'i achredu gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Palmerston). Rydw i wedi bod yn helpu gyda phethau fel yr adolygiad nwy, sydd â’r nod o ddysgu sut aeth y gwaith o wasanaethu eich gwres canolog. Rydw i wedi darganfod, waeth faint rydych chi'n ei ddysgu, mae ‘na gymaint mwy bob amser gan fod amser yn newid popeth.

 

Digital Buddies CardDigital ChampionsDigital SessionDig Vol Oct

 

Digidol o fewn ein Cynlluniau Gwarchod

Mae Cyfeillion Digidol hefyd yn cefnogi trigolion yn ein cynlluniau gwarchod byw'n annibynnol ar gyfer preswylwyr sy'n 55+ oed. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno o amgylch anghenion a gofynion preswylwyr.

 

Maent hefyd yn cyflwyno gweithgareddau digidol hwyliog yn ystod prynhawniau coffi, o ofyn i seinydd clyfar fel Alexa roi'r ateb i gwestiynau cwis, i ddefnyddio camerâu llwybr i ddarganfod y bywyd gwyllt sy'n byw yn eu gerddi.

 

Mae preswylwyr bob amser yn awyddus i ymgysylltu a chofleidio'r gwahanol fathau o dechnoleg sy'n dod yn haws ar gael. 

CrawshayCrawshay CourtTai Chi Crawshay DigitalVintheV card

 

Lianne Young

I archebu lle ar un o'n sesiynau hyfforddi yn Hyb Aberaeron ar ddydd Llun, ffoniwch:

  • 07523 427355

Neu, os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gyfaill Digidol a gwirfoddoli'ch amser i gefnogi eraill o amgylch eu hanghenion digidol, mae croeso i chi gysylltu â ni:

 

Trwy Werth yn y Fro, gall ein gwirfoddolwyr ennill gwobrau am eu hamser:

vale homes logoDigital Buddies LogoValue in the Vale_Logo_DigitalDigital Buddies CardVintheV card