Cost of Living Support Icon

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

 

Beth yw hwn?

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gyfraith newydd sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2022 ac mae'n effeithio ar bob tenant a landlord yn y sector rhentu cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg fel eich landlord a chi fel ein tenant. Bydd yn gwella'r ffordd mae pobl yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

 

Sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi?

Y Cyngor fydd eich landlord o hyd a byddwch yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth tai ag yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd.  Byddwch yn dal i allu byw yn eich cartref, byddwch yn dal i dalu rhent, a byddwn yn dal i wneud eich atgyweiriadau ac yn gofalu am eich ystadau a'ch ardaloedd

cymunedol. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau tai eraill i baratoi ar gyfer y newidiadau, a bydd ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gweithredu mor ddi-dor â phosibl. 

 

 

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost rentinghomeswales@valeofglamorgan.gov.uk

 

Neu cysylltwch â'ch Rheolwr Cymdogaeth