Cost of Living Support Icon

Chymorth Cyflogadwyedd a Sgiliau Cartrefi’r Fro

Os ydych yn denant Cartrefi’r Fro ac angen cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth, gallwn gynnig pecyn pwrpasol o help sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer eich anghenion

 

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:

  • Cefnogaeth gyda datblygu CV, chwilio am swyddi a cheisiadau.

  • Mynediad i'n Bwrsariaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant - rydym yn talu am hyfforddiant i helpu eich taith.

  • Hyfforddiant ar-lein am ddim os yw hynny'n haws i chi.

  • Cefnogaeth gyda hyfforddiant cyfrifiadurol trwy ein Cynllun Cyfaill Digidol.

  • Mynediad i'n Cynllun Benthyciadau Llechen – i'r rhai heb gyfrifiaduron.

  • Cyfleoedd gwirfoddoli drwy'n Rhaglen Gwirfoddoli Gwerth yn y Fro - cewch wobrau am yr amser rydych chi'n ei roi.

 

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am beth allwn ni ei gynnig i chi, cysylltwch â mi am sgwrs anffurfiol:

 

Shani Payter

 

Taflen Sgiliau Cyflogaeth a Chymorth

 

eCymru Logo

Porth Tai eCymru

Mae eCymru yn Borth Tai arloesol newydd sydd wedi'i gynllunio i gysylltu tenantiaid Tai Cymdeithasol ar draws Cymru gyfan.

Gallwch gael mynediad ar unwaith i fyd o ddigwyddiadau, gweithgareddau, ymgysylltu, dysgu a chyfleoedd addysg.

 

Mae'r broses gofrestru yn syml iawn – edrychwch ar daflen am fanylion.

 

Taflen eCymru

 

Fideos defnyddiol ar sut y gall tenantiaid gofrestru ac archebu digwyddiadau:

 

eCymru - Cofrestru fel Tenant - YouTube

 

eCymru - Bwcio Digwyddiad fel Tenant - YouTube