Cost of Living Support Icon

Canlyniadau Prosiectau Cymunedol

 community projects logo welsh

 

Mae gan dîm Cyfoethogi Cymunedau Cartrefi'r Fro hanes o weithio gyda'u preswylwyr ar amrywiaeth o brosiectau cymunedol.  Mae gwaith y tîm wedi canolbwyntio ar Adeiladu Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair ac mae'n amrywio o helpu preswylwyr y Fro:

 

  • i gynyddu eu rhagolygon cyflogaeth i'w helpu i gael swydd neu symud yn agosach at y farchnad lafur.

  • i wella iechyd a lles, cryfhau cymunedau a

  • hyrwyddo cynhwysiant ariannol a digidol o fewn cymunedau.

Rydym yn awyddus i adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud yn ein cymunedau lleol a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n tenantiaid am y modd y gallant gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol. 

 

Ers i ni ddechrau ar y gwaith hwn, rydym wedi cyflawni llawer iawn.  

healthy mind and body

Ein cyflawniadau drwy wella iechyd a lles.

 Fel rhan o wella iechyd a lles, rydym wedi:

 

  • Lansio prosiect bancio amser Cartrefi’r Fro yn 2018, gan hybu iechyd, lles a datblygu sgiliau. 
    • Cofrestru 527 o wirfoddolwyr.
    • Dyfarnu 5,387 o gredydau amser.
    • Bancio 5,387 o oriau gwirfoddoli.
    • Cofrestru 41 o sefydliadau i gymryd rhan mewn cynllun bancio amser.
    • Dywedodd 78% o breswylwyr yn y cynllun Bancio Amser fod eu hiechyd, lles a hyder wedi gwella.
  • Mewn partneriaeth ag adran Chwaraeon a Chwarae’r Cyngor cynigiodd Cartrefi’r Fro y rhaglen o’r soffa i 5k i breswylwyr ac fe wnaeth 21 o breswylwyr gymryd rhan. 
  • Mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd Oakfield a Colcot, lansiwyd clwb magu ar ôl ysgol gan gefnogi 34 plant i gymryd rhan.
  • Lansiwyd y clwb beicio i blant rhwng 4 a 16 oed ac ymgysylltwyd â 493 o bobl ifanc, yn ogystal â darparu 32 o sesiynau hyfforddi am ddim. 
  • Mewn partneriaeth â Fitness Force darparwyd sesiynau ffitrwydd i 120 o breswylwyr.  

 

digital skills and learning

Ein cyflawniadau drwy hyrwyddo lles ariannol a digidol.

 Fel rhan o hyrwyddo lles ariannol a digidol, rydym wedi:

 

  • Sicrhau £30,000 o gyllid EDRF Llywodraeth Cymru i osod ystafelloedd cyfrifiadurol o fewn holl Gynlluniau Tai Gwarchod Cyngor y Fro.
  • Cynnig 360 o sesiynau hyfforddi Cynhwysiant Digidol i breswylwyr hŷn yn y Cynlluniau Gwarchod.
  • Cynnig 270 o sesiynau hyfforddi Cynhwysiant Digidol yn Hyb Aberaeron i breswylwyr y Fro.
  • Cynnal 3,870 o apwyntiadau Cynhwysiant Ariannol a Chyngor ar Arian.
  • Helpu tenantiaid i hawlio £1,141,492 o Fudd-Daliadau Lles.

 

working together to improve the community

Ein cyflawniadau drwy gryfhau cymunedau.

 Fel rhan o gryfhau cymunedau, rydym wedi:

 

  • Mewn partneriaeth â Bro Ddiogelach a Swyddogion Diogelwch Cymunedol yr Heddlu lansiwyd prosiect yr ardd yn Llanilltud Fawr i wella’r gerddi a’r cysylltiadau cymunedol, cafodd 10 eiddo cyngor eu targedu ac 11 o wirfoddolwyr eu recriwtio i gefnogi’r prosiect. 
  • Cefnogi a chyflawni prosiect kicks mewn partneriaeth â Tai Newydd, Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd, Bro Ddiogelach a Swyddogion Diogelwch Cymunedol yr Heddlu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd amgen i bobl ifanc. Cefnogwyd 3521 o bobl ifanc gan gynnig 123 o sesiynau.
  • Cynnal 452 o asesiadau anghenion cymorth tai a rhoi cymorth tai i 427 o breswylwyr. 
  • Lansio Prosiect rhandiroedd bysedd gwrdd Gibby a chymerodd 276 o wirfoddolwyr ran. 
  • Rhoi cefnogaeth cyn tenantiaeth i 534 o denantiaid trwy gynnig y prosiect "Barod am Denantiaeth" i denantiaid newydd drwy Tai Newydd a Phartneriaid.
  • Cafwyd £30,000 fel rhan o'r rhaglen adeiladu tai cyngor gan ddefnyddio cymalau budd cymunedol, caiff 10 prosiect gymorth o ganlyniad. 
  • Mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus, cynhaliwyd sesiynau casglu sbwriel yn y gymuned a gefnogwyd gan 163 o breswylwyr lleol.
  • Cefnogi cymunedau lleol glanach drwy gynnig amnest sgipiau gyda 32 o bobl leol wedi cymryd rhan.  

   


Helping people get back into work

Ein cyflawniadau fel rhan o'n mentrau cyflogaeth a sgiliau.

 Fel rhan o'n gwaith o ddatblygu cyflogaeth a sgiliau, rydym wedi:

 

  • Lansio "Opportunity Knocks" yn 2018, rhaglen gyflogaeth a sgiliau mewn partneriaeth â Tai Newydd, Cartrefi'r Fro ac Inspire 2 Work.
  • Cefnogi 140 o breswylwyr drwy ein Sioeau Teithiol Cyflogadwyedd yn y Fro.
  • Cefnogi 60 o breswylwyr gyda CVs a sgiliau paratoi am gyfweliad drwy ein rhaglen hyfforddiant cyn cyflogaeth.
  • Cefnogi 30 o breswylwyr drwy ein gwersyll cyflogadwyedd preswyl.
  • Creu 7 x 6 wythnos o leoliad gwaith o fewn adrannau'r Cyngor.
  • Sicrhau gwerth 369 wythnos o hyfforddiant drwy gymalau recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu, drwy gyfrwng ein rhaglen datblygu tai.
  • Helpu 110 o breswylwyr i gael eu cyflogi.
  • Helpu 961 o breswylwyr i gael cymwysterau galwedigaethol achrededig.
  • Helpu 7 o breswylwyr i gael prentisiaethau.
  • Helpu 7 o bobl i ddod yn hunangyflogedig. 

  

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar ffurf pdf gan ddefnyddio'r ddolen isod. 

 

 Canlyniadau'r Strategaeth Buddsoddi Cymunedol Cymraeg

 

 community projects partner logos