Bydd swyddogion sy'n ymwneud â'r ymarfer hwn yn gweld pob ymateb a dderbynnir gan Gyngor Bro Morganwg yn llawn. Gall adrannau eraill o fewn y Cyngor neu bartïon eraill weld y wybodaeth hefyd i helpu i wella'r gwasanaethau a ddarperir.
Gall y Cyngor hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a geir i gyhoeddi dogfennau dilynol sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â'r ymgynghoriad hwn. Fodd bynnag, ni fydd y Cyngor byth yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol fel enwau neu gyfeiriadau a allai adnabod unigolyn.
Os nad ydych am i'ch sylwadau gael eu cyhoeddi, nodwch hynny yn eich ymateb.