Cardiau Teithio Consesiynol Newydd
Mae gan y Cardiau Teithio Consesiynol olwg newydd ond maent yn cynnig yr un manteision teithio am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol ledled Cymru. Mae’r hen gardiau yn ddilys o hyd ar gyfer teithio tan 31 Rhagfyr 2019 ac yn cynnig yr un manteision. Gofynnir i ddeiliaid cardiau ac ymgeiswyr newydd wneud cais am gerdyn newydd o 9 Medi 2019 trwy borth ar-lein Trafnidiaeth Cymru:
www.tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio
Hysbysiad Preifatrwydd
Trafnidiaeth Cymru - rhybudd aflonyddwch gwasanaeth
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd y Porth Cerdyn Teithio Rhatach ar gael rhwng 6 ac 13 Medi.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi. Byddwch yn gallu gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru a chael mynediad i'ch cyfrif unwaith y daw'r gwaith cynnal a chadw i ben ddydd Llun 13 Medi 2021.
Os y gwnaethoch ymgeisio cyn 6 Medi 2021, ni fydd y gwaith cynnal a chadw’n effeithio ar eich cais ond ni fyddwch yn gallu olrhain eich cais tra bydd y safle all-lein.
Os oes angen i chi gysylltu â ni ar frys, e-bostiwch travelcards@tfw.wales neu ffoniwch 0300 303 4240. Nodwch: rydym yn derbyn mwy o alwadau nag arfer ar hyn o bryd.
Gallwch ddarllen mwy am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru yma.