Cost of Living Support Icon

Prosiect Dylunio Stryd Cymunedol Ysgol Gynradd Fairfield

Dryden Road - before and after the School Streets schemeDechreuodd Prosiect Dylunio Stryd Cymunedol Fairfield yn 2020 gyda'r nod o wneud yr ardal o amgylch yr ysgol yn amgylchedd mwy cyfeillgar a diogel ar gyfer cerdded, mynd ar olwynion, sgwtera a beicio.

 

Yn seiliedig ar yr adborth a syniadau gan ddisgyblion, trigolion, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid lleol, mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'i bartner Teithio Llesol, Sustrans i weithredu ystod o welliannau, yn cynnwys cau Dryden Road yn ystod y cyfnod gollwng a chasglu o’r ysgol, system draffig unffordd a chynllun stryd newydd.

 

  • Beth sy’n newid?

    Mae newidiadau amrywiol wedi'u gweithredu i hwyluso systemau traffig newydd a chynllun gwell ar gyfer Dryden Road.

     

    Gwelliannau i gynllun stryd Dryden Road

    Adeiladwyd gerddi glaw ar ymylon y ffordd i gynorthwyo draeniad naturiol, gwella bywyd gwyllt a gweithredu fel rhwystr amddiffyn rhwng ceir a cherddwyr.

    Mae’r cynllun ffordd newydd hefyd wedi gwella croesfannau anffurfiol a mannau parcio wedi'u nodi er mwyn cyfrannu ymhellach at amgylchedd mwy diogel i gerddwyr.

     

    Ffurfioli system draffig unffordd ar Dryden Road

    Mae system draffig unffordd yn Dryden Road wedi cael ei ffurfioli. Gellir mynd i’r ffordd o’r pen gogleddol / y siopau gyda thraffig yn llifo i'r de, gan adael ar i Goedlan Wordsworth.  Gweithredwyd hyn i gynorthwyo gyda chau'r ffordd yn ystod y cyfnodau cau.

     

    Cyflwyno 'Stryd Ysgol'

    Bydd Dryden Road ar gau i draffig cerbydau modur nad yw'n hanfodol o 8 - 9am a 3 - 4pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol, ond bydd mynediad i bobl sy'n cerdded, mynd ar olwynion neu feicio yn parhau.

  • Pryd mae'r newidiadau'n digwydd?

    Ar ôl cwblhau’r gwaith i wella cynllun Dryden Road, gweithredwyd y system traffig unffordd a chau’r 'Stryd Ysgol' ar 09 Mai 2023. 

  • Pam fod y newidiadau'n digwydd?

    'Cyflwynwyd Strydoedd Ysgol yn llwyddiannus yng Nghymru a'r DU dros y blynyddoedd diwethaf gydag effeithiau cadarnhaol pellgyrhaeddol ar ansawdd aer a diogelwch a hygyrchedd gwell i gerddwyr a defnyddwyr ffordd sy’n agored i niwed.

     

    Nod prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Fairfield yw mynd i'r afael â thagfeydd, cyflymder a maint y traffig, sef y materion allweddol a nodwyd gan ddisgyblion, trigolion, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid lleol.

     

    Mae mwy o wybodaeth am fanteision Strydoedd Ysgol ar Wefan Sustrans

     

  • Pa ymgysylltu ac ymgynghori sydd wedi digwydd? 

    Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Sustrans i ymgysylltu ac ymgynghori’n eang â’r trigolion lleol, disgyblion Ysgol Gynradd Fairfield, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid lleol.

     

    Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Stryd Ysgol Fairfield

  • I bwy mae cau'r ffordd yn berthnasol?

    Mae cau’r 'Stryd Ysgol' yn berthnasol i bob cerbyd modur nad yw'n hanfodol rhwng 8 - 9am a 3 - 4pm, ac eithrio trigolion (a gofalwyr trigolion) Dryden Road, y Gwasanaethau Brys, Trafnidiaeth Ysgol, deiliaid bathodynnau glas a cherbydau cynnal a chadw hanfodol.

     

    Bydd y cerbydau hyn yn cael mynediad gan y Swyddog yn ystod pob cyfnod amser 'Stryd Ysgol'.

 

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar wefan Sustrans.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag activetravel@valeofglamorgan.gov.uk