Cost of Living Support Icon

Gwneud Cais Cynllunio

Gwybodaeth ac arweiniad ar sut mae cyflwyno Cais Cynllunio ym Mro Morgannwg.

 

Cyflwyno cais cynllunio ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o gyflwyno cais cynllunio yw ar-lein trwy’r ddolen isod:

 

Porthol Cynllunio

 

Cyflwyno cais cynllunio drwy’r post neu dros e-bost 

Lawrlwythwch ffurflenni cais trwy’r ddolen isod:

 

Ffurflenni Cais

 

Ffioedd Ceisiadau Cynllunio

 

Ffioedd Cais

 

Gellir talu ffioedd ar-lein trwy'r botwm isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis Incwm Arall o’r Rhestr Gwasanaeth, yna Cynllunio wedyn Ffioedd Cais.

 

Talwch ar-lein

 

 Gallwch hefyd dalu dros y ffôn, drwy gysylltu â'n Canolfan Alwadau ar:

  • 01446 700111

 

Cyngor ar wneud cais cynllunio

 

Rhestr Wirio ar gyfer Dilysu

 

Sut mae Penderfyniadau’n Cael eu Gwneud

Y Prif Swyddog Cynllunio sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o geisiadau. Y Pwyllgor Cynllunio sy’n penderfynu ar geisiadau mwy neu a allai fod yn fwy dadleuol. 

 

Asesir ceisiadau cynllunio yn erbyn polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol y gellir eu gwirio. 

  

Ceisiadau Mawr

(10 neu fwy o anheddau, ardal safle o 0.5 hectar neu fwy, neu le llawr o fwy na 1000 metr sgwâr)
 

Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais

Rhaid i ddatblygwyr gyflwyno adroddiad Ymgynghori Cyn Gwneud Cais ar gyfer unrhyw ddatblygiad “mawr”.

 

Mae canllawiau manwl ar wefan Llywodraeth Cymru Adran 17 Deddf Gynllunio Cymraeg 2015 

 

I gynorthwyo datblygwyr i gynnal ymgynghoriadau, mae rhestr o'r holl Gynghorau Tref a Chymuned ar gael yma, Aelodau Ward yma, ac Ymgynghorai Arbenigoligol yma

 

Gall y Cyngor helpu datblygwyr i gadw gwybodaeth ar gyfer ei Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais os byddant yn gwneud cais ffurfiol am gyngor Cyn Gwneud Cais. 

 

Hysbysiad Dechrau Datblygu

Pan fo datblygwr am ddechrau datblygiad mawr, rhaid iddo gwblhau a chyflwyno ffurflen 'Hysbysiad Dechrau Datblygu'

 

 

Hefyd, rhaid arddangos hysbysiad safle a chynllun lleoliad yn y datblygiad o ddyddiad dechrau'r datblygiad. 

 

Noder: Wrth wneud cais cynllunio, bydd y ffurflenni, y cynlluniau a'r wybodaeth ategol ar gael i’r cyhoedd.