Gweithdai creu lleoedd
Ar y 30ain o Fedi 2024 cafodd Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol y CDLl ei ystyried a'i gytuno mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn. Wrth gytuno ar yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, cymeradwyodd y Cyngor Llawn y camau gweithredu a nodir yn y ddogfen a rhoddodd gymeradwyaeth i ddefnyddio'r Strategaeth a Ffefrir fel sail ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf paratoi'r CDLl, sef y Cynllun Adnau.
Roedd yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cynnwys ymrwymiad i ofyn i hyrwyddwyr y safle ymgymryd ag ymgysylltu anffurfiol ar greu lleoedd gyda chymunedau lleol er mwyn llywio prif gynllunio'r safleoedd hyn.
Cynhaliwyd digwyddiadau creu lleoedd mewn perthynas â'r safleoedd allweddol yn Sain Tathan, Dinas Powys a'r Rhws ym mis Hydref 2024. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ymgynghori a gyflwynwyd yn y digwyddiadau hyn yma:
Bydd adroddiad yn manylu ar y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y digwyddiadau creu lleoedd a sut y bydd y rhain yn cael sylw yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r CDLl Adnau.