Cost of Living Support Icon

Beth yw'r meini prawf ar gyfer dod yn Gynghorydd?

 

Ydw i'n gymwys?

 

TickGallwch fod yn gynghorydd os ydych chi’n:

  • Ddinesydd Prydeinig neu ddinesydd o'r Gymanwlad neu'r Undeb Ewropeaidd
  • O leiaf 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad a diwrnod yr enwebiad
  • Wedi cofrestru i bleidleisio ym Mro Morgannwg neu wedi byw, gweithio neu berchen ar eiddo yno am o leiaf 12 mis cyn etholiad

Ni allwch fod yn gynghorydd os ydych chi’n:

  • Gweithio i Gyngor Bro Morgannwg; (nid yw hyn ond yn berthnasol i ddod yn gynghorydd bwrdeistref sirol - nid cynghorwyr cymuned)
  • Dal swydd sydd wedi'i chyfyngu'n wleidyddol mewn awdurdod arall
  • Yn fethdalwr
  • Wedi gwasanaethu dedfryd o garchar (gan gynnwys dedfrydau gohiriedig) o 3 mis neu fwy o fewn y 5 mlynedd diwethaf
  • Wedi cael eich anghymwyso dan ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag arferion llwgr neu anghyfreithlon

Er mwyn asesu a ydych yn bodloni'r meini prawf i ddod yn gynghorydd, cyfeiriwch at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy'n amlinellu y manylion cymhwyso yn llawn.

 

Nod Prosiect Amrywiaeth mewn Democratiaeth Llywodraeth Cymru yw cynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll am etholiadau’r llywodraeth leol.