Cost of Living Support Icon

 

polling station

Sut ydw i'n sefyll fel ymgeisydd?

 

 

Gallwch sefyll etholiad fel ymgeisydd annibynnol neu fel ymgeisydd grŵp/plaid wleidyddol. Os ydych yn aelod neu'n bwriadu ymuno neu sefyll fel aelod o blaid wleidyddol bydd ei hasiantau yn gweithio i chi. Os ydych yn sefyll fel aelod annibynnol bydd angen i chi ofyn am gyngor gan wahanol asiantaethau.

 

I ddod yn gynghorydd mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch hun ar gyfer etholiad. Oni bai bod swydd wag achlysurol yn codi o fewn ward, cynhelir etholiadau ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai unwaith bob pum mlynedd.

 

Er mwyn sefyll etholiad rhaid i chi gwblhau papurau enwebu sydd ar gael ar y dudalen etholiadau sydd ar y gweill berthnasol a fydd hefyd yn nodi’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno pan fydd yn hysbys, neu y gellir gofyn amdano drwy gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol.

 

Er mwyn sefyll fel ymgeisydd bydd angen i chi ddarparu:

  • Papur enwebu wedi'i lofnodi gennych chi a thyst
  • Ffurflen cyfeiriad cartref
  • Tystysgrif gan swyddog enwebu'r blaid, yn awdurdodi eich ymgeisyddiaeth a'ch defnydd o ddisgrifiad ac arwyddlun y blaid 

Rhaid dychwelyd pob dogfen i’r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bost at nominations@valeofglamorgan.gov.uk neu’n bersonol drwy wneud apwyntiad gyda’r Tîm Cofrestru Etholiadol.

 

A allaf sefyll fel Cynghorydd Cymuned hefyd?

 

I gael rhagor o wybodaeth am sefyll fel Cynghorydd Cymuned cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol gan ddefnyddio'r ddolen uchod.