Cost of Living Support Icon

Pa gyfleusterau a chymorth sydd ar gael?

  • Faint fydd fy nghyflog?

    Mae pob cynghorydd yn cael cyflog sylfaenol. Mae gan gynghorwyr hawl hefyd i gael lwfansau teithio. Gallwch hefyd hawlio eich cyflog wrth gymryd absenoldeb teuluol fel absenoldeb rhiant.

     

     

    Gweld Cydnabyddiaeth Ariannol a Lwfansau Cynghorwyr

     

    Bydd y cynghorwyr hynny sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol megis bod yn aelod o'r Cabinet, Cadeirydd y Pwyllgor neu arweinydd eu grŵp gwleidyddol yn cael taliad ychwanegol. Gelwir hyn yn gyflog uwch ac fe'i cyfrifir yn seiliedig ar faint y Cyngor.

     

    Mewn rhai amgylchiadau, mae lwfans gofal ar gael i dalu am gostau trefnu gofal plant, dibynyddion neu'r aelod unigol sy'n gysylltiedig â chynnal busnes swyddogol fel aelod.

    Pennir y trefniadau uchod gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

  • Mae gennyf anabledd, a fydd y Cyngor yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnaf?

     
    Bydd. Bydd y Cyngor yn darparu cymorth i ddarparu ar gyfer eich anabledd penodol. Bydd y Cyngor yn rhoi'r trefniadau mynediad sydd eu hangen arnoch ar waith. Mae'n bwysig nodi hefyd, bod rhaid i gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yn adeiladau'r Cyngor fod yn hygyrch i bobl anabl, yn unol â’r gyfraith.

     

     

    Mae gan ymgeiswyr anabl hawl i gael cyllid i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u nam a allai fod yn rhwystr iddynt sefyll fel cynghorydd.

     

    Gellir cynnal rhai cyfarfodydd y Cyngor mewn model hybrid (h.y. wyneb yn wyneb ac o bell), gan ddileu’r gofyniad i deithio'n bell i fynychu'n bersonol.

     

    Mae Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn ceisio dileu'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl sy'n ceisio cael eu hethol drwy ddarparu cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau a chymorth rhesymol. Gweinyddir y gronfa gan Anabledd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

     

    Ar ôl lansio'r Gronfa yn llwyddiannus ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Gronfa i ymgeiswyr anabl sy'n sefyll yn Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022. Gall y rhai sy'n sefyll dros eu cyngor cymuned a'u prif awdurdod lleol wneud cais.

     

  • Mae gennyf gyfrifoldebau gofalu, a fydd y Cyngor yn fy nghefnogi?

     
    Mae gan Gynghorwyr hawl i gael ad-daliad o gostau gofal y rhai y maent yn gofalu amdanynt, neu am eu cymorth personol eu hunain. Trefnir amserlen cyfarfodydd y Cyngor i osgoi gwyliau ysgol lle bo modd.

     

  • Faint o amser fydd angen i mi ymroi i’r rôl?

     
    Ar gyfartaledd, mae cynghorwyr yn ymrwymo'r hyn sy'n cyfateb i dri diwrnod yr wythnos i'r rôl. Gall hyn fod yn heriol, ond llawer o gynghorwyr yn llwyddo gwneud hynny. Nid yw holl ymrwymiadau'r Cyngor yn ystod y diwrnod gwaith ond hefyd gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu ar eich cyfer.

     

     

    Gellir cynnal trafodaethau gydag arweinwyr grŵp i amlinellu eich cyfrifoldebau a'ch ymrwymiadau er mwyn gallu addasu'r llwyth gwaith i'ch anghenion (os yw'n berthnasol). Gallwch fod yn glir iawn gyda'ch etholwyr am yr amseroedd y byddech yn gallu cwrdd â nhw, cymryd eu galwadau ac ymateb i e-byst.

  • Rwyf wedi gweld y gall rhai Cynghorwyr, fel gwleidyddion cenedlaethol, gael eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. A allai hyn ddigwydd i mi?

     
    Yn anffodus, mae rhai aelodau wedi profi hyn; fodd bynnag, mae pob Cyngor lleol yn gweithio gyda'i gilydd i roi cymorth i aelodau sy'n profi unrhyw gamdriniaeth a hefyd i ymgyrchu yn ei herbyn. Mae'r Cyngor yn cynnig hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pwrpasol ac yn darparu enghreifftiau o arfer gorau i Gynghorwyr. Mae gan y Cyngor hefyd Bolisi Cyfryngau Cymdeithasol.

     

     

    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd wedi llunio canllaw i gynghorwyr ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

  • Pa gyfleusterau / offer y byddaf yn gallu eu defnyddio?

     
    Bydd gan bob grŵp gwleidyddol fynediad i ystafell breifat ar y safle yn adeiladau’r Cyngor i gynnal cyfarfodydd mewnol (os bydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu). Mae Siambr y Cyngor yn darparu man modern a hygyrch i Aelodau fynychu cyfarfodydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny yn bersonol. Bydd pob Cynghorydd hefyd yn cael offer a chymorth digidol, gan roi’r gallu i Aelodau gael mynediad i gyfarfodydd o bell.

     

     

    Gall pob Cynghorydd hefyd gael gafael ar gyngor gan swyddogion yn y Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu yn ogystal â chyngor gan swyddogion proffesiynol eraill y Cyngor i'w helpu i gyflawni eu dyletswyddau.

  • A oes gen i'r cymwysterau / sgiliau cywir?

     
    Daw cynghorwyr o bob cefndir a gallu. Mae hyn yn bwysig er mwyn iddynt allu cynrychioli eu cymunedau. Mae angen cynghorwyr sydd ag amrywiaeth o brofiadau, cefndiroedd cyflogaeth a chymwysterau ar gynghorau.

     

     

    Fel aelod, bydd angen i chi allu deall adroddiadau y mae swyddogion y Cyngor yn eu hysgrifennu cyn i chi wneud penderfyniadau, bydd disgwyl i chi hefyd wneud y rhan fwyaf o'ch gwaith ar gyfrifiadur a meddu ar sgiliau pobl dda i weithio gyda phawb yn y gymuned.

     

    Y prif gymwysterau, fodd bynnag, yw diddordeb yn eich cymuned a bodlonrwydd i ddysgu. Bydd gwybodaeth, profiad a hyder yn dilyn yn fuan wedyn. Cynigir arsefydlu cynhwysfawr i chi i’ch rôl fel cynghorydd a chymorth ac arweiniad parhaus ar eich datblygiad personol.

     

    Darperir hyfforddiant rheolaidd parhaus ar sail fforwm un i un neu fforwm agored ac mae wedi'i addasu i'ch anghenion a'ch gofynion i sicrhau bod gennych y sgiliau cywir i gyflawni’r rôl.

  • Sut mae'r defnydd o'r Gymraeg yn cael ei annog yn y rôl?

     
    Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn gyson â Safonau'r Gymraeg. Mae Agendâu, Cofnodion a Hysbysiadau Penderfyniad ar gael yn ddwyieithog
  • Hoffwn gael rhywfaint o brofiad o fod yn Gynghorydd, sut gallaf drefnu hyn?

     
    Os hoffech gael syniad o'r math o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn cyfarfodydd, gallwch gael profiad cyn ymrwymo drwy wylio cyfarfod o Bwyllgor y Cyngor ar ein gwefan neu drwy fynychu sesiynau agored a gynhelir yn Siambr y Cyngor (a bod cyfyngiadau COVID yn caniatáu). Bydd hyn yn caniatáu i ddarpar ymgeiswyr gael cipolwg ar sut mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal.