Cost of Living Support Icon

Beth yw rôl Cynghorydd?

Etholir cynghorwyr i gynrychioli eu cymuned leol wrth redeg eu cyngor lleol. Mae cynghorwyr yn helpu i benderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu, eu hariannu a'u blaenoriaethu. Mae cynghorwyr yn gweithio gyda gweithwyr y Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau'n berthnasol ac yn cael eu darparu'n effeithiol.

 

Mae bod yn gynghorydd yn ffurf werth chweil ar wasanaeth cyhoeddus sy’n eich rhoi mewn sefyllfa unigryw lle y gallwch wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwella ansawdd bywydau pobl ym Mro Morgannwg. Mae’n rhoi cyfle i chi helpu eich cymuned leol a bod yn rhan o dîm ymroddgar sy’n darparu gwasanaethau allweddol i’ch ardal chi.

 

Gall rôl cynghorydd gynnwys:

  • cynrychioli eich ward lleol
  • gwneud penderfyniadau
  • adolygu a datblygu polisïau a strategaeth
  • trosolwg a chraffu
  • dyletswyddau rheoleiddiol
  • arwain ac ymgysylltu cymunedol.

 

Gweler fideo IRPW (Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) yma am ragor o wybodaeth