MAE’R DDOGFEN HON AR GAEL YN SAESNEG
THIS DOCUMENT IS AVAILABLE IN ENGLISH
|
Hysbysiad o Gyfarfod:
|
Cyfarfod Blynyddol Cyngor Bro Morgannwg
|
|
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod:
|
Dydd Mercher, 13 Mai 2026 – 6.00pm
|
|
Math / Lleoliad:
|
Cyfarfod Hybrid / Siambr y Cyngor
|
** Bydd y Maer sy’n ymddeol yn cadeirio nes bod y Maer newydd yn cael
ei ethol yn ffurfiol. Cyflwynir Trefn gyflawn y Digwyddiadau yn ystod
y cyfarfod. Amgaeir Trefn y Trafodion llawn.
1. Ymddiheuriadau am absenoldebau.
2. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.
Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.
3. Ethol Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaethau Adrannau 22 a 23 Deddf Llywodraeth Leol 1972. **
4. Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaeth Adran 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
5. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan:
(i) y Maer;
(ii) yr Arweinydd;
(iii) Aelodau'r Cabinet; a
(iv) y Prif Weithredwr.
Adroddiadau gan y Prif Weithredwr –
6. Trefniadau Gweithredol:
Aelodaeth y Cabinet a Phortffolios –
I nodi statws yr Arweinydd a chael gwybod gan yr Arweinydd beth yw enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelodau’r Cabinet, ynghyd â’u portffolios a, pan fo’n berthnasol, enwebiadau ar gyfer “Llefarwyr”. (D.S. Ceir manylion taliadau arfaethedig Uwch Gyflogau yn yr adroddiad hefyd.)
7. Trefniadau Anweithredol –
Penodi Pwyllgorau Craffu ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod (Atodiad A i Ddilyn):
(a) Pwyllgor Craffu Dechrau’n Dda
(b) Pwyllgor Craffu Byw'n Dda
(c) Pwyllgor Craffu Lle
(ch) Pwyllgor Craffu Adnoddau.
8. Pwyllgorau Lled-Farnwrol, Pwyllgorau a Chyrff Eraill –
Penodi’r cyrff isod ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth am y flwyddyn ddinesig sydd i ddod (Atodiad A i Ddilyn):
Pwyllgorau Lled-farnwrol flwyddyn dinesig
(a) Pwyllgor Apeliadau
(b) Pwyllgor Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol
(c) Pwyllgor Ymchwilio
(ch) Pwyllgor Cynllunio
(d) Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus
(dd) Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd
(e) Pwyllgor Statudol Trwyddedu
(f) Pwyllgor Safonau
(ff) Pwyllgor Penodi Pwyllgor Safonau.
Pwyllgorau / Is-bwyllgorau / Panelau
(g) Penodi Llywodraethwyr ALl – Panel Ymgynghorol.
(ng) Pwyllgor Cyswllt Cymunedol
(h) Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(i) Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(j) Pwyllgor Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi
(l) Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
(ll) Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd
(m) Pwyllgor Penodi Uwch Reolwyr
(n) Panel Penodi Pwyllgor Safonau
(o) Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth
(p) Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol
(ph) Ymddiriedolaeth Ystad Deddf Eglwys Cymru.
Cyrff Eraill (Yn cynnwys Cyrff ar y Cyd)
(r) Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldebau
(rh) Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
(s) Cydbwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De –
Mae Model Rheolaeth y Consortiwm yn cynnwys Cydbwyllgor symlach, sy’n cynnwys nifer lai o Arweinwyr neu gynrychiolwyr a enwebwyd. Mae pob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn penodi un Aelod, ac (yn unol â’r Model Cenedlaethol), dylai hwn fod yr Arweinydd neu ddirprwy a enwebwyd. Cynrychiolydd presennol y Cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg.
(t) Cyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: Aelodaeth a Phenodi Dirprwyon –
Mae’r Cytundeb Cydweithio yn galluogi bob un o’r tri Awdurdod perthnasol i benodi eilyddion ar gyfer y ddau Aelod a enwyd ganddynt. Cynrychiolwyr presennol y cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd. Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth acAdeiladu ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd oedd yr eilyddion ar gyfer yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd yn y drefn honno.
(th) Y Cwmni Arlwyo Big Fresh (Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol) – Cynrychiolwyr presennol y Cyngor yw’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau a fydd yn cynrychioli’r Cyngor fel cyfranddaliwr y cwmni ac a fydd yn cael eu cynghori gan Banel Cynghori Cyfranddalwyr, sy’n cynnwys Swyddogion y Cyngor.
9. Nodi dyddiadau cyfarfodydd cyffredin y Cyngor i’w cynnal yn y flwyddyn ddinesig sydd i ddod –
13 Gorffennaf 2026
28 Medi 2026
7 Rhagfyr 2026
8 Mawrth 2027
26 Ebrill 2027.
10. Ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau isod ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:
(a) Apeliadau
(b) Cyswllt Cymunedol
(c) Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(ch) Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol
(a) Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi
(dd) Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg
(e) Ymchwilio
(f) Cynllunio
(ff) Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd
(g) Penodi Uwch Reolwyr
(ng) Trwyddedu Statudol
(h) Ymddiriedolaeth
(i) Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol
(l) Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru.
Gweler yr atodiad sydd ynghlwm sy’n nodi pam nad yw pwyllgorau penodol wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod.
11. Rhestr Taliadau’r Aelodau 2026-27. (Atodiad A i Ddilyn)
12. Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan I).
RHAN II
GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
13. Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
6 Mai 2026
Os oes angen cymorth arnoch i arsylwi'r cyfarfod a/neu gael mynediad at unrhyw eitemau ar yr agenda, gan gynnwys papurau cefndir, neu'r agenda mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:
James Langridge-Thomas, Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Democrataidd
Ffôn: (01446) 709457
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk