Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod     PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL

 

Dyddiad ac amser          DYDD MERCHER, 22 MEDI, 2021 AM 4.00 P.M.  **

y Cyfarfod                      

 

Lleoliad                         CYFARFOD O BELL

 

** GOFYNNIR I'R AELODAU NODI AMSER CYCHWYN Y CYFARFOD HWN

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeirnod –

4.         Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg 2020-21 – Cabinet: 19 Gorffennaf, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr –

5.         Adroddiad Monitro Cynllun Cyflenwi Blynyddol: Perfformiad Chwarter 1 2021/22.

[Gweld Cofnod]

(Dylai Aelodau roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 hanner dydd ar ddiwrnod y cyfarfod a oes angen swyddog i fod yn bresennol at ddibenion Monitro Perfformiad)

 

Cyfeirnod –

6.         Polisi Gwerthu Gorfodedig– Cabinet: 19 Gorffennaf, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr –

7.         Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 drafft a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 drafft.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeirnod –

8.         Adolygiad o Strwythur Tîm Arweinyddiaeth yr Uwch Weithredwyr – Cabinet: 13 Medi, 2021. [Gweld Cyfeirnod] [Gweld y Cyflwyniad]

[Gweld Cofnod]

 

9.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

            (i)   Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol: Canllawiau Statudol Drafft.

[Gweld Cofnod]

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

10.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

15 Medi, 2021

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

K. Bowen, Ffôn: Y Barri (01446) 709856

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I Holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Cadeirydd: Y Cynghorydd M.R. Wilson;

Is-gadeirydd: Y Cynghorydd P. Drake;

Y Cynghorwyr: G.D.D. Carroll, G.A. Cox, R. Crowley, V.P. Driscoll, G. John, Dr. I.J. Johnson, S. Sivagnanam a J.W. Thomas.

 

 

SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Cyfarfod rhithwir fydd hwn a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, Swyddogion ac unigolion sydd wedi cofrestru i siarad. Bydd y cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w drosglwyddo wedi hynny trwy wefan y Cyngor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709856.