Cost of Living Support Icon

 

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR CRAFFU DYSGU A DIWYLLIANT

 

Dyddiad ac amser

Y Cyfarfod                    DYDD IAU, 9 MEHEFIN, 2022 AM 6.00 P.M.

 

Lleoliad                         CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Is-Gadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.

            (Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).  

[Gweld Cofnod]

 

Cyflwyniad –

5.         Cyflwyniad i’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriad –

6.         Adroddiad Monitro Cydraddoldeb Blynyddol 2020-2021– Cabinet: 25 Ebrill, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau –

7.    Sut mae Ysgolion y Fro wedi defnyddio’r Grant Recriwtio, Adennill, Codi Safonau: Rhaglen Cyflymu Dysgu i Gefnogi Dysgwyr.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Prif Weithredwr –

8.         Tracio Argymhellion Craffu 4ydd Chwarter 2021/22 ac Atodlen Rhaglen Gwaith Cychwynnol Flynyddol Arfaethedig 2022/23.

[Gweld Cofnod]

 

9.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

            (i)   Cynrychiolaeth o'r Fforwm Cyllideb Ysgolion a Derbyn.

[Gweld Cofnod]

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

10.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

1 Mehefin, 2022

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi A. Rudman, Ffôn: 01446 709855

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant
 

Cadeirydd: Cynghorydd R.R. Thomas;

Is-Gadeirydd: I’w penodi yn y cyfarfod;

Cynghorwyr: A. Asbrey, R.E. Godfre, W. Gilligan, E.J. Goodjohn, W.A. Hennessy, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, N.B. Marshallsea, J.M. Norman, H.M. Payne ac E. Penn.

 

Gwahoddir hefyd fel aelodau cyfetholedig:

R. Morteo                               (Yr Eglwys yng Nghymru).

Dr. M. Price                            (Yr Eglwys Babyddol).

L. Barrowclough                     (Rhiant-lywodraethwr – Sector Cynradd).

C. Williams                            (Rhiant-lywodraethwr – Sector Uwchradd).

 

Gwahoddir hefyd fel arsylwyr dibleidlais:

I. Cramb                                 (Fforwm Ieuenctid y Fro).

T. Froud                                 (Fforwm Ieuenctid y Fro).

G. Scott                                  (Addysg Gymraeg).

Rôl wag                                  (Cynradd).

Rôl wag                                  (Uwchradd).

Rôl wag                                  (Arbennig).

Rôl wag                                  (Penaethiaid).

Rôl wag                                  (Eglwysi Rhyddion).

 

 

SYLWCH:

Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf  Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx