Cost of Living Support Icon

 

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR CRAFFU DYSGU A DIWYLLIANT

 

Dyddiad ac amser

Y Cyfarfod                    DYDD IAU, 8 MEDI, 2022 AM 6.00 P.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.

          (Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).  

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau –

4.       Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2022/23– Cabinet: 7 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

5.       Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau Iaith Cymru 2021-22 – Cabinet: 21 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau –

6.       Adroddiad Monitro Cynllun Cyflenwi Blynyddol: Perfformiad Chwarter 1 2022/23.

(Dylai Aelodau roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 hanner dydd ar ddiwrnod y cyfarfod a oes angen swyddog i fod yn bresennol at ddibenion Monitro Perfformiad)

7.       Cau Cyfrifon Refeniw 2021/22.

8.       Cau Cyfrifon Cyfalaf 2021/22.

 

9.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

10.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

 

1 Medi, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi A. Rudman, Ffôn: 01446 709855

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I Aelodau’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant
 Cadeirydd: Cynghorydd R.R. Thomas;

Is-Gadeirydd: Cynghorydd H.M. Payne;

Cynghorwyr: A. Asbrey, W. Gilligan, R.E. Godfrey, E.J. Goodjohn, W.A. Hennessy, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, N.B. Marshallsea, J.M. Norman ac E. Penn.

 

Gwahoddir hefyd fel aelodau cyfetholedig:

R. Morteo (Yr Eglwys yng Nghymru).

Dr. M. Price (Yr Eglwys Babyddol).

L. Barrowclough (Rhiant-lywodraethwr – Sector Cynradd).

C. Williams (Rhiant-lywodraethwr – Sector Uwchradd).

 

Gwahoddir hefyd fel arsylwyr dibleidlais:

I. Cramb (Fforwm Ieuenctid y Fro).

T. Froud (Fforwm Ieuenctid y Fro).

G. Scott (Addysg Gymraeg).

Rôl wag (Cynradd).

Rôl wag (Uwchradd).

Rôl wag (Arbennig).

Rôl wag (Penaethiaid).

Rôl wag (Eglwysi Rhyddion).

 

 

SYLWCH:

Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx