Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod    CYFARFOD BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR Y GWASANAETHAU RHEOLIADOL A RENNIR   

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD MAWRTH, 28 MEHEFIN, 2022 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Penodi Is-gadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldebau.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 -

6.         Datganiad o Gyfrifon 2021/22 heb eu Harchwilio Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir [Gweld Atodiad A]

[Gweld Cofnod]

7.         Archwilio Cymru 2022 Cynllun Archwilio.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai  –

8.         Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

[Gweld Cofnod]

9.         Cynllun Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

[Gweld Cofnod]

10.       Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Iechyd a Diogelwch 2022/23.

[Gweld Cofnod]

 

11.       Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan I).

 

RHAN II

 

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

12.       Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

21 Mehefin, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985 –

Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at

Mrs. K. Bowen, Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709249

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

  • Cynghorwyr Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr – Y Cynghorwyr R. Goode a M. Lewis
  • Cyngor Caerdydd – Y Cynghorwyr D. De’Ath a M. Michael
  • Cyngor Bro Morgannwg – Y Cynghorwyr P. Drake a R. Sivagnanam

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249.

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx