Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod   CYFARFOD BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR Y GWASANAETHAU RHEOLIADOL A RENNIR   

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD MAWRTH, 13 RHAGFYR, 2022 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldebau.

 

2.       Cofnodion a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai -

4.       Adroddiad Trosolwg a Diweddaru Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

[Gweld Cofnod]

5.       Ffioedd a Thaliadau Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2023-24.

[Gweld Cofnod]

6.       Tanwariant Cyllideb 2021-22 y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

[Gweld Cofnod]

7.       Cyllideb Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2023-24.

[Gweld Cofnod]

 

8.       Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan I).

 

RHAN II

 

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai -

9.       Cyllideb Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir 2023-24 (I DDILYN).

[Gweld Cofnod]

 

10.     Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

7 Rhagfyr, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985 –

Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at

K. Bowen, Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709856

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I Aelodau Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

  • Cynghorwyr Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr – Y Cynghorwyr R. Good (Is-Gadeirydd) a M. Lewis
  • Cyngor Caerdydd – Y Cynghorwyr D. De’Ath a M. Michael
  • Cyngor Bro Morgannwg – Y Cynghorwyr P. Drake a R. Sivagnanam (Cadeirydd)

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

  

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb ddim hwyrach na 24 awr cyn amser cychwyn y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx