Cost of Living Support Icon

Y Mythau

Mae yna nifer o gamsyniadau, ond isod fe welwch y gallwn egluro’n union beth yw perchentyaeth cost isel drwy chwalu rhai mythau cyffredin

 Aspire2Own

Myth 1: Mae perchentyaeth cost isel yn dipyn o opsiwn olaf

Dyw e’n sicr ddim yn opsiwn olaf. Mewn gwirionedd mae’n ateb perffaith os ydych chi eisiau camu ar yr ysgol dai ond mai incwm cyfyngedig sydd gennych ar gyfer blaendal. Mae’r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf angen blaendal o tua £30,000 heddiw – mae hyn ddeg gwaith yn fwy na 30 mlynedd yn ôl! Drwy gymryd rhan yn y cynllun hwn byddwch angen blaendal o rhwng 5%-15% o’r 70% o ecwiti y byddwch yn berchen arno yn yr eiddo; nid ydych angen blaendal ar gyfer 100% o’r gwerth.

Colwinston

Myth 2: Mae safon cartrefi perchentyaeth cost isel yn israddol

Adeiledir ein cartrefi i’r un safon ag unrhyw eiddo arall a werthir ‘yn llwyr’. Rydym yn cynnig cartrefi ar werth ledled Bro Morgannwg ac, fel y gwyddoch o bosib, dyma’r ardal ddrytaf i fyw ynddi yng Nghymru. Gallai hyn beri i chi beidio â phrynu yn yr ardal atyniadol hon gan eich bod yn cymryd yn ganiataol nad ydych yn medru fforddio gwneud. Yn hytrach na chael eich gwasgu allan o’r ardal lle cawsoch eich magu, mae perchentyaeth yn rhoi cyfle i brynwyr tro cyntaf i brynu cartref safonol mewn ardal ddrud am bris fforddiadwy.

Myth 3: Mae’r costau misol yn uchel

Dim o gwbl. Mewn gwirionedd mae perchentyaeth cost isel yn aml yn rhatach na rhentu. Efallai bydd taliad blynyddol isel i gynnal a chadw ardal gymunedol neu diroedd, ond rhennir hwn fel arfer rhwng yr holl drigolion ar y datblygiad tai.

Myth 4: Mae hi’n anodd ffeindio tai perchentyaeth cost isel

Mae gennym eiddo ar gael i’w prynu o dan ein cynllun perchentyaeth cost isel mewn nifer o ddatblygiadau ledled Bro Morgannwg. Edrychwch ar y dudalen Aspire2Own ar wefan Cyngor Bro Morgannwg, yn ogystal â thudalennau Facebook a Twitter Aspire2Own, i weld yr eiddo diweddaraf sydd ar gael.

 

 

Aspire to Own

3 Bed floor plan

Myth 5: Nid yw tai perchentyaeth cost isel yn ddigon mawr i deuluoedd sy’n tyfu

Mae gennym amrediad o dai perchentyaeth cost isel o un i bedair ystafell wely – sy’n ddelfrydol os ydych yn prynu am y tro cyntaf.

 

Mae ein cynllun yn eich helpu i gamu ar yr ysgol dai, gan roi help llaw os ydych chi eisiau prynu eiddo mwy fyth yn y dyfodol.

Myth 6: Nid yw hi’n bosib gwneud arian ar y math yma o dai felly mae’n fuddsoddiad gwael

Os yw gwerth eich cartref yn codi, felly hefyd gwerth eich rhan 70% chi yn yr eiddo. Os ydych chi eisiau bod yn berchen ar eich cartref yn llwyr drwy brynu’r ecwiti mae housing association yn berchen arno, bydd yn rhaid i chi dalu 30% o werth cyfredol y farchnad.

 

Golyga hyn y gallech chi brynu eich cartref yn llwyr am lai na’r gwerth gwreiddiol pe bai gwerth yr eiddo yn gostwng.

Myth 7: Mae hi’n anodd gwerthu eiddo perchentyaeth cost isel

Anghywir! Caiff y tai hyn eu marchnata yn yr un ffordd ag unrhyw eiddo arall sydd ar werth.

 

Mewn gwirionedd efallai eu bod yn fwy atyniadol i brynwyr oherwydd eu prisiau fforddiadwy.

Myth 8: Mae’r broses o gael cartref perchentyaeth cost isel yn gymhleth

Mae’r broses yn syml. Gellir ei rannu i dri cham hawdd:

 

1. Registration: The first step is to register your interest in buying a low cost  property.

 

2. The application process: Once you have found a property you will need to complete the necessary application  form and submit it to the Vale of Glamorgan Council. The local authority together with the housing association will then decide who can proceed to purchase the property. 

 

3. Y broses pryniant: Os ydych yn llwyddiannus, bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd morgeisi a phenodi cyfreithiwr i drefnu eich morgais ac i brynu’r eiddo ar eich rhan.