Cost of Living Support Icon

Cynllun Rhentu yn Gyntaf

 

** Ar hyn o bryd does dim cartrefi Rhentu yn Gyntaf ar gael **

 

Cynllun sy’n galluogi i bobl rentu eiddo yn gyntaf a’i brynu maes o law os ydynt yn dymuno gwneud

 

Mae cynllun Rhentu yn Gyntaf yn cynnig ateb canol y farchnad i unigolion a theuluoedd sydd mewn sefyllfa ariannol sefydlog, ond sy’n methu prynu tŷ ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd economaidd, pris tai neu ddiffyg blaendal ar gyfer morgais.

 

Yn unol â thelerau cynllun Rhentu yn Gyntaf, codir rhent is na phris y farchnad i alluogi pobl i gynilo blaendal. Gall y tenant brynu’r eiddo wedyn ymhen tair blynedd.

 

Ydych chi’n prynu eich tŷ cyntaf?

Ydych chi eisiau’ch tŷ eich hun?

Does dim blaendal gennych?

Gallai bod yn berchen ar dŷ fod o fewn eich cyrraedd.

 

Yr amodau craidd i fod yn ymgeisydd llwyddiannus yw: 

 

  • Bod dros 18 oed
  • Bod yn ddinesydd y DU neu ddal pasbort UE/AEE neu fod ‘caniatâd i aros am gyfnod amhenodol’ wedi’i stampio yn eich pasbort
  • Bod gennych gysylltiad lleol â Llanilltud Fawr neu’r cymunedau cyfagos
  • Cymhwyso ar gyfer meini prawf fforddiadwyedd (yn cynnwys lleiafswm incwm)
  • Bod yn prynu eich tŷ cyntaf neu yn eich ystyried eich hun yn brynwr annibynnol am y tro cyntaf
  • I’r sawl sy’n gadael y Lluoedd Arfog, eich bod wedi byw ym Mro Morgannwg am fwy na chwe mis cyn ymuno â’r Lluoedd Arfog

 

Gwneud Cais am Eiddo

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tŷ o dan y cynllun hwn, darllenwch y cwestiynau cyffredin a llenwi ffurflen gais Rhentu yn Gyntaf.

 

Nodwch: Defnyddir meini prawf i brofi dilysrwydd. Asesir ceisiadau, ac os ydynt yn cymhwyso, cânt eu cadw ar restr wrth gefn ar gyfer y cartref nesaf fydd ar gael.

 

Dychwelwch y ffurflenni gorffenedig at: Y Tîm Strategaeth Tai, Cyngor Bro Morgannwg, Y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU