Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun ?
Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad?
Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraed
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig gyda Chymdeithas Tai Hafod, fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely ar lannau’r dŵr poblogaidd yn y Barri, fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.
Mae hwn yn eiddo i’w ail-werthu gyda sgôr TPY B.
Cyntedd Croesawu
Ardal Fyw
Cegin wedi'igosod gyda hob a ffwrn integredig
Ystafell Ymolchi
Dwy Ystafell wely
En suite i' brif y ystafell wely
Lle parcio sengl wedi'i neilltuo i flaen yr adeilad
Mae'r eiddo o fewn pellter cerdded i'r traeth, gorsafoedd trên a datblygiad Goodsheds.
Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.
Browser does not support script.
Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £112,000 (y pris 100% yw £160,000).
Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, ffoniwch:
Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Sylwch: Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol; mae’r rhain wedi eu nodi yn y Cwestiynau Cyffredin.
Cofiwch, cyn gwneud cais am eiddo, y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn, darllenwch yr hysbyseb a llenwch ffurflen gais:
Cofrestrwch gydag Aspire to Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd Perchentyaeth Cost Isel eraill.