Cost of Living Support Icon

 

31 Portland Drive, Y Barri, CF62 5AU

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy.

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 
  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 
  • Does dim angen mynd dim pellach, gallai perchentyaeth fod o fewn cyrraedd

Mae’n bleser gan Tai Newydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, gynnig tŷ pen rhes 2 ystafell wely yn Portland Drive, Y Barri fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo ailwerthu a adeiladwyd yn 2016. 

 

Mae'r llety’n cynnwys

  • Cyntedd

  • Toiled lawr y grisiau
  • Lolfa

  • Ystafell Ymolchi

  • Dwy Ystafell Wely

  • Gardd Gefn

  • Lle parcio yn y blaen

Mae'r eiddo o fewn pellter cerdded i'r traeth, gorsafoedd trên a datblygiad Goodsheds.  

 

Mae'r cyfleusterau i gyd ar gael o fewn pellter cerdded gan gynnwys ysgolion, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad am £161,000.

(y pris 100% yw £230,000).

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

I weld, cwblhewch ffurflen gais Perchentyaeth Cost Isel a'i hanfon at housingstrategy@valeofglamorgan.gov.uk gyda'r dystiolaeth ategol fel sy'n ofynnol ar dudalen 8 y ffurflen.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: 

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

 

Aspire-2own logo

Apply for Property

Don't forget, before applying for a property you will need to  register for the Aspire2Own Scheme.

 

If you are interested in purchasing this property please read the advert and complete an application form:  

 

 

 

 

Register with Aspire to Own to receive information about other Low Cost Home Ownership opportunities.