Cost of Living Support Icon

 11 Cae Ffynnon, Clare Gardens, Y Bont-faen, CF71  7FJ

Lerchentyaeth Cost Isel: Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy.

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf yn dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad

  • Does dim gofyn mynd dim pellach, gall fod perchentyaeth o fewn cyrraed

Mae Tai Newydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, yn falch o gynnig tŷ pâr 2 ystafell wely yn Clare Gardens, Y Bont-faen fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo ailwerthu a adeiladwyd yn 2019

 

Mae gan yr eiddo radd effeithlonrwydd ynni TPY o B

 

Mae'r eiddo yn cynnwys:

  • Cyntedd & Toiled lawr y grisiau

  • Cegin

  • Lolfa 

  • Ystafell Ymolchi

  • Dwy Ystafell Wely

  • Gardd gefn 

  • 2 lle parcio

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

   

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad  £178,500 (y pris 100% price £255,000).

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

I weld, cwblhewch ffurflen gais Perchentyaeth Cost Isel a'i hanfon at housingstrategy@valeofglamorgan.gov.uk gyda'r dystiolaeth ategol fel sy'n ofynnol ar dudalen 8 y ffurflen:

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Bydd ymgeiswyr cymwys

  • Yn prynu am y tro cyntaf
  • Â chysylltiad â'r ardal leol
  • Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo
  • Â modd o gael blaendal 
Aspire-2own logo

Gwneudd Cais am Eiddo

Peidiwch ag anghofio, cyn gwneud cais am eiddo bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch ffurflen gais:  

 

 

Cofrestrwch gydag Aspire2Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd eraill ym maes perchnogaeth tai cost isel.