Cost of Living Support Icon

8 Cwrt Pencoedtre, Y Barri *Dan Gynnig*

 

Perchentyaeth Cost Isel: Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy.

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 

  • Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraedd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig tŷ tair ystafell wely yn y Barri fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae'r eiddo yn dŷ pâr deulawr traddodiadol, wedi'i leoli i'r dwyrain o'r Barri, sy'n caniatáu mynediad cyflym i'r ffyrdd cyswllt a choridor yr M4.

 

Mae'r llety yn cynnwys:

  • Cyntedd

  • Tŷ bach ar y llawr gwaelod

  • Lolfa

  • Ystafell fwyta/frecwast gyda hob/popty integredig

  • Tair ystafell wely

  • Ystafell ymolchi gyda thoiled

  • Tramwyfa gyda lle ar gyfer dau gar

  • Gardd gefn gyda mynediad ochr a sied.

 

 Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.  

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 75% o bris y farchnad £168,750 (y pris 100% yw £225,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

 

Mae meini prawf o ran cymhwysedd yn berthnasol.

Bydd ymgeiswyr cymwys:

  • Yn prynu am y tro cyntaf

  • Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo

  • Â modd o gael blaendal

Sylwch: Mae meini prawf cymhwyster yn berthnasol, manylir ar y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin. 
Aspire-2own logo

Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch ag anghofio, cyn gwneud cais am eiddo bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch ffurflen gais: 

 

 

Cofrestrwch gydag Aspire to Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd Perchentyaeth Cost Isel eraill.