Cost of Living Support Icon

186 Railway Road, Y Rhws *Dan Gynnig*

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

  • Ydych chi' brynwr tro cyntaf sy'n dymuno bod yn berchen ar eich ty eich hun?

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau'r farchnad?

  • Yna, mae'n bosibl bod perchentyaeth o fewn cyrraedd

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig ar y cyd â Thai Wales & West dŷ 2 ystafell wely yn y Rhws fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo i’w ail-werthu gyda sgôr TPY o B.

 

Mae'r llety yn cynnwys:

  • Cyntedd ac Ystafell Gotiau ar y Llawr 

  • Lolfa

  • Cegin

  • Dwy ystafell wely

  • Ystafell ymolchi

  • Gardd Gefn

  • Dau fan parcio dynodedig

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

 

Llyfryn Eiddo

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £147,000 (y pris 100% yw £210,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Mae meini prawf o ran cymhwysedd yn berthnasol. 

Bydd ymgeiswyr cymwys:

  • Yn prynu am y tro cyntaf

  • Yn gallu codi morgais ar gyfer gwerth yr eiddo

  • Â modd o gael blaendal

  • Â chysylltiad â'r ardal leol

Sylwch: Mae meini prawf o ran cymhwysedd yn berthnasol, manylir ar y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin. 

Aspire-2own logo

Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch ag anghofio, cyn gwneud cais am eiddo bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch ffurflen gais: 

 

 

Cofrestrwch gydag Aspire to Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd Perchentyaeth Cost Isel eraill.