33 Clos y Rheilffordd, Lannau'r Barri
Perchentyaeth Cost Isel
Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy.
Gwybodaeth allweddol yr eiddo
Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd, gynnig cartref 2 ystafell wely ar Lannau’r Barri fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.
Mae'r cyfleusterau i gyd ar gael o fewn pellter rhesymol gan gynnwys ysgol, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus.
- Pris: £161,000 (70%)
- Gwerth Llawn ar y Farchnad: £230,000
- Math o Eiddo: Tŷ teras pen gyda dwy ystafell wely
- Lleoliadd: Llanau'r Barri
- Deiliadaeth: Rhydd-ddeiliaid
- Arwyneb llawr: 70 Metr Sgwar
- Gwresogi: Boeler Nwy
- Parcio: 1 Le Parcio ar y ffordd
Mae'r llety'n cynnwys:
Cyntedd
Mae cyntedd croesawgar yn darparu mynediad ar y llawr gwaelod a'r grisiau i'r llawr cyntaf. Wedi ei addurno gyda lliwiau a lloriau niwtral, a thoiled, mae'n creu argraff gyntaf ddymunol o'r cartref.
Toiled i lawr y grisiau
Basn ymolchi a thoiled modern gyda llawr niwtral.
Lolfa
Mae’r ystafell fyw yn olau ac yn eang gyda golygfeydd o’r ardd gefn trwy ddrysau patio, sydd yn creu awyrgylch golau a chroesawgar. Wedi ei haddurno gyda lliwiau niwtral a lloriau sydd yn cyd-fynd drwyddi draw, mae'n darparu gofod cyfforddus ar gyfer bywyd dyddiol ac i diddanu gwesteion.
Cegin
Cegin fodern gydag amrywiaeth o unedau wal a llawr, arwynebau gwaith sy’n cyd-fynd, a ffwrn integredig, hob, a ffan awyru. Mae lle ar gyfer oergell-rewgell a pheiriant golchi dillad, ac mae ffenestr flaen yn darparu digon o olau naturiol, gan greu gofod golau ac ymarferol.
Prif Ystafell Wely
Prif ystafell wely eang sydd yn olau ac yn wynebu’r blaen, wedi ei haddurno gyda lliwiau niwtral, a digon o le ar gyfer dodrefn annibynnol. Mae'r ystafell hefyd yn elwa o en suite sy'n cynnwys cawod, toiled, a basn golchi dwylo.
Ystafell Wely Dau
Ystafell wely ddwbl o faint da sy'n edrych dros gefn yr eiddo, wedi'i haddurno gyda lliwiau niwtral a charped wedi'i ffitio.
Ystafell Ymolchi Deuluol
Ystafell ymolchi wen fodern, gan gynnwys cawod dros y bath, toiled a basn golchi dwylo. Wedi'i haddurno gyda teils tasgu, a llawr niwtral.
Tu Allan
Mae gan yr eiddo ardd gefn breifat gaeëdig, sy'n darparu lle ar gyfer seddi awyr agored a defnydd teuluol. Mae un lle parcio oddi ar y ffordd o flaen yr eiddo.
I fod yn gymwys, rhaid bod ymgeiswyr:
Before expressing an interest in this property, you should ensure that you have:
- Yn prynu am y tro cyntaf
- Â chysylltiad â'r ardal leol
- Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo
- Â modd o gael blaendal
Bydd cael y trefniadau hyn ar waith yn helpu i sicrhau y gall y broses brynu fynd rhagddi mor llyfn â phosibl.
Gwneud Cais am Eiddo
Cam 1: Cofrestru gydag Aspire2Own
Cyn gwneud cais am yr eiddo hwn, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r cynllun Aspire2Own.
Cofrestru gydag Aspire2Own
Cam 2: Cyflwyno cais
Llenwch a chyflwynwch y Ffurflen Gais Perchentyaeth Cost Isel.
Gwneud cais am yr Eiddo hwn
Cam 3: Gweld yr eiddo
Os bydd y cais yn cael ei gymryd i'r cam nesaf, bydd y Tîm Strategaeth Tai yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad a thrafod unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Arhoswch yn wybodus
Cofrestrwch gydag Aspire2Own i dderbyn diweddariadau am gyfleoedd perchnogaeth cartrefi cost isel yn y dyfodol ledled Bro Morgannwg.