Cost of Living Support Icon

10 Rhodfa Seabright, Lannau'r Barri

Perchentyaeth Cost Isel

Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy.

 

Gwybodaeth allweddol yr eiddo

Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd, gynnig cartref 2 ystafell wely ar Lannau’r Barri fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel. 

 

Mae'r cyfleusterau i gyd ar gael o fewn pellter rhesymol gan gynnwys ysgol, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

  • Pris: £166,600 (70%)
  • Gwerth Llawn ar y Farchnad: £238,000
  • Math o Eiddo - Tŷ pâr 2 ystafell wely
  • Lleoliad: Llanau'r Barri
  • Deiliadaeth: Rhydd-ddeiliaid
  • Arwyneb llawr: 57 Metr Sgwâr
  • Gwresogi: Boeler Nwy
  • Parcio: 2 Le Parcio Oddi ar y Ffordd

 

 

Mae'r llety’n cynnwys:

Mae'r llety’n cynnwys (1.00m x 3.00m)

Mae cyntedd croesawgar yn darparu mynediad i'r llety ar y llawr gwaelod a'r grisiau i'r llawr cyntaf.  Yn cynnwys ystafell gotiau / toiled gyfleus, décor niwtral a lloriau cyflenwol, mae'r gofod yn rhoi argraff gyntaf olau a chroesawgar o'r cartref.

 

Toiled i lawr y grisiau (0.8m x 1.6)

Basn ymolchi a thoiled modern gyda llawr niwtral.

 

Lolfa (3.9m x 3.7m)

Ystafell fyw olau a braf gyda drysau patio yn edrych dros yr ardd, gyda décor a llawr niwtral drwyddi draw. Lleoliad delfrydol ar gyfer ymlacio a diddanu.

 

Cegin (1.8m x 3.1m)

Cegin fodern wedi’i ffitio sy'n cynnwys amrywiaeth o unedau wal a llawr gydag arwynebau gwaith cyflenwol. Mae’r gegin yn cynnwys ffwrn integredig, hob a ffan echdynnu, gyda lle ar gyfer oergell, rhewgell a pheiriant golchi.  Mae ffenestr sy'n edrych dros flaen yr eiddo yn darparu digon o olau naturiol, gan greu gofod braf ac ymarferol ar gyfer coginio a bwyta bob dydd.

 

Prif Ystafell Wely (3.3m x 2.6m)

Prif ystafell wely fawr sy'n edrych dros flaen yr eiddo gyda ffenestr fawr sy'n llenwi’r ystafell â golau naturiol. Gyda phalet niwtral soffistigedig, mae'r ystafell ddeniadol hon yn cynnig digon o le ar gyfer dodrefn rhydd ac yn darparu lleoliad braf a chyfforddus ar gyfer gorffwys ac ymlacio.

  

  

Ystafell Wely Dau (3.8m x 2.1m)

Ystafell wely ddwbl o faint da sy'n edrych dros gefn yr eiddo, wedi'i gorffen gyda décor niwtral a charped wedi'i ffitio.

 

Ystafell Ymolchi Deuluol (1.8m x 1.9m)

Ystafell ymolchi wen fodern, gan gynnwys cawod dros y bath, toiled a basn golchi dwylo.  Wedi'i gorffen gydag ardaloedd tasgu o deils, a llawr niwtral. 

 

Cwpwrdd Storio

Cwpwrdd storio defnyddiol, y gellir mynd ato o’r landin. 

 

Tu allan

Mae'r eiddo yn elwa o ardd gefn breifat gaeëdig, sy'n darparu lle ar gyfer seddi awyr agored a defnydd teuluol.  I flaen yr eiddo mae dau le parcio oddi ar y ffordd. 

 

 

I fod yn gymwys, rhaid bod ymgeiswyr:

Before expressing an interest in this property, you should ensure that you have:

  • Yn prynu am y tro cyntaf
  • Â chysylltiad â'r ardal leol
  • Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo
  • Â modd o gael blaendal

Bydd cael y trefniadau hyn ar waith yn helpu i sicrhau y gall y broses brynu fynd rhagddi mor llyfn â phosibl.

 

 

Gwneud Cais am Eiddo

Cam 1: Cofrestru gydag Aspire2Own

Cyn gwneud cais am yr eiddo hwn, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r cynllun Aspire2Own.

 

Cofrestru gydag Aspire2Own

 

Cam 2: Cyflwyno cais

Llenwch a chyflwynwch y Ffurflen Gais Perchentyaeth Cost Isel.

 

Gwneud Cais am yr Eiddo hwn

 

Cam 3: Gweld yr eiddo

Os bydd y cais yn cael ei gymryd i'r cam nesaf, bydd y Tîm Strategaeth Tai yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad a thrafod unrhyw gwestiynau sydd gennych.