Cost of Living Support Icon

15 Beaconsfield, Y Wig

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwye.

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad

  • Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraedd

Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg gynnig, ar y cyd â Chymdeithas Tai Unedig Cymru, cartref dwy ystafell wely yn Y Wig fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Y band Treth Gyngor ar gyfer yr eiddo hwn yw C

Mae hwn yn eiddo i’w ail-werthu gyda sgôr TPY B.

 

Mae'r llety’n cynnwys: 

 

  • Cyntedd a Thŷ Bach ar y Llawr Gwaelod

  • Lolfa

  • Cegin

  • Dwy ystafell wely

  • Ystafell Ymolchi

  • Gardd Gefn

  • Dau le parcio oddi ar y ffordd yn yr ardd flaen

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad sef am £150,500 (y pris 100% yw £215,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

 

Bydd ymgeiswyr cymwys yn:

  • Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer cysylltiad lleol
  • Brynwyr tro cyntaf 
  • Gallu codi morgais am werth yr eiddo
  • Gyda blaendal

Nodwch: Mae’r meini prawf cymhwysedd a’r polisi Gwerthu Lleol yn berthnasol.

 

Aspire-2own logo

Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch anghofio, cyn ymgeisio i brynu, mae'n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu’r eiddo hwn, darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch y ffurflen gais. 

Cofrestrwch gydag Aspire2Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd eraill ym maes perchnogaeth tai cost isel.