Strategaeth Cartrefi
Darparu’r weledigaeth ar gyfer tai a gwasanaethau tai ledled Bro Morgannwg, fel y nodir yn y Strategaeth Tai Leol.
Gweithio’n agos â Tai Sector Cyhoeddus a Phreifat, yr Adran Gynllunio, datblygwyr tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a sefydliadau trydydd sector i gynllunio, datblygu a gwella tai a gwasanaethau tai.
Mae Strategaeth Tai yn gyfrifol am gynllunio a darparu nodau strategol y Strategaeth Tai Lleol, gan gynnwys:
- Datblygu a monitro strategaethau a chynlluniau tai.
- Cynllunio a datblygu tai fforddiadwy.
- Cynnal y cynllun Aspire2Own ar gyfer perchentyaeth cost isel.
- Hyrwyddo cyfranogiad cymunedau gwledig o ran nodi problemau a datrysiadau tai
- Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol.
- Datblygiad strategol Cynnwys Tenantiaid a Thrigolion.
- Sicrhau bod tai yn cynnal gwerthoedd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Ymgynghori ar faterion, cynlluniau, strategaethau a datblygiadau tai.
Ymgynghoriadau
Bydd y tîm Strategaeth Tai yn ymgynghori â thenantiaid a phreswylwyr am strategaethau, cynlluniau a dogfennau newydd y maen nhw’n eu datblygu.
Ymgynghoriadau cyfredol:
Ymgynghoriadau a gwblhawyd: