Cost of Living Support Icon

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)  

Un o brif nodau Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pawb yng Nghymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, yn cael y cyfle i fyw mewn cartrefi o safon dda, mewn cymunedau diogel ac wedi’u diogelu.

 

Er mwyn sicrhau bod safon pob cartref yn cyrraedd lefel dderbyniol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen o’r enw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

 

Ceir weld rhagor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar wefan Llywodraeth Cymru.


Safon yw hon ar gyfer ansawdd a chyflwr eiddo sy’n rhestru nifer o dargedau y bydd angen i bob cartref eu bwrw.

  • Mewn cyflwr da
  • Diogel ac wedi’i ddiogelu
  • System wresogi ddigonol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi’i inswleiddio’n dda
  • Yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern
  • Mewn ardaloedd diogel a deniadol 
  • Yn cael eu rheoli’n dda

 

Cafodd awdurdodau lleol yng Nghymru  tan 2020 i sicrhau bod eu holl dai cymdeithasol yn bodloni’r safon. Gan fod y cyngor wedi bodloni’r safon yn 2018, mae gwaith gwella yn parhau i gael ei wneud ar bob cartref i gynnal y safon hon.

 

Welsh Government logo

 

 

 

 

 

 

 

Newly rendered flats

 

 WHQS newly rendered flats 2

  • Mae SATC yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a chaiff ei henwi'n SATC2023. Beth fydd y safon newydd yn ei chynnwys?

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n adolygu’r Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) bresennol a bydd yn cynnwys meysydd ychwanegol i'r safon wreiddiol megis:

    • gofynion cyfreithiol wedi'u diweddaru

    • cynyddu’r gofyniad o ran llorio ac ystyried bioamrywiaeth a thlodi dŵr

    • newidiadau i ofynion effeithlonrwydd ynni

     

     

     

  • Sut bydd Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal y stoc ar ôl SATC?

    Mae Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar oddeutu 4,000 o dai cymdeithasol.

     


    Mae hyn yn cynnwys eiddo o wahanol oedran, mathau a meintiau wedi’u hadeiladu o bob math o ddeunyddiau gwahanol. Bydd angen newid sawl cydran yn yr holl eiddo hyn am rai newydd ar adegau gwahanol dros y 30 mlynedd nesaf er mwyn parhau i gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru.

     

    I sicrhau y gellir cyflawni hyn, mae’r Tîm Gwasanaethau Tai ac Adeiladau’n defnyddio ei system rheoli asedau (Keystone) i nodi cydrannau eiddo y mae angen eu newid bob blwyddyn ac o ganlyniad i’r wybodaeth hon mae wedi cynnal rhaglen arolygu gwaith gwella gynhwysfawr o stoc tai cymdeithasol Bro Morgannwg er mwyn nodi pa gydrannau y bydd angen eu newid dros y 5 mlynedd nesaf.

    Yn ystod 2023/24 disgwylir cwblhau’r gwaith cynnal SATC a nodir yn y tabl isod.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

    Gwaith Newid Cydrannau a Ragwelir ar gyfer 2023-24

    Bydd y Tîm Gwasanaethau Tai ac Adeiladau hefyd yn ymweld â’i denantiaid eto sydd wedi gwrthod gwaith adnewyddu SATC bob blwyddyn i weld a ydynt wedi newid eu meddyliau a byddent nawr yn hoffi cael eu hystyried am waith i newid cydran(nau) yn y rhaglen gyfalaf dros y blynyddoedd nesaf. 

  • Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu?

    Bob blwyddyn mae’r Cyngor yn pennu cyllideb gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai (CRT) flynyddol ar gyfer gwaith gwella tai:

     

     

    Mae gan y rhaglen gyfalaf CRT gyllideb o oddeutu £5 i £10m y flwyddyn i gyflawni gwaith cynnal a chadw SATC dros y 5 mlynedd nesaf.

     

    Yn 2023/24 bydd Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn £2,770,000 gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC.

     

    Yn 2023/24 bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £15m ar welliannau SATC. 

     

     How is the work being funded 1How is the work being funded 2

     

     

     

     

     

     

     

     

    Welsh Government logo

  • Pa welliannau a gaiff eu gwneud i’m heiddo os caiff ei nodi yn rhaglen cynnal a chadw SATC?

    Gwaith Allanol / Mewnol - bydd angen mynd i'r afael â hyn dros y 30 mlynedd nesaf h.y., Ail-doi, tynnu asbestos, gosod wyneb newydd / gwaith atgyweirio allanol, ceginau, ystafelloedd ymolchi, ail-wifro a gwres canolog. Mae gwaith allanol hefyd yn gallu cynnwys ail-bwyntio waliau’r adeilad, atgyweirio neu newid rendrad confensiynol, inswleiddio’r waliau allanol, ailosod cladin a thynnu neu ail-bwyntio a/neu ailadeiladu cyrn simneiau.

     

     

     

    Gwaith Atgyweirio Tai Annhraddodiadol: Gall gwaith i’r mathau hyn o eiddo gynnwys, pan fo angen gwneud hynny i gyflawni safonau GAS (Gweithdrefnau Asesu Safonol) priodol, inswleiddio waliau allanol ac unrhyw waith cysylltiedig. DS: Os bydd waliau allanol eiddo’n cael eu hinswleiddio, gall hynny gynnwys adnewyddu’r to a’r ffenestri fel rhan o’r cynllun.

     

     

    Gwaith Cymunedol: Gall gwaith gynnwys newid systemau mynediad drws, drysau tân cymunedol, systemau larwm tân, newid seilwaith trydanol, ail-baentio, lloriau newydd a goleuadau newydd. 

     

     

    Materion Allanol Eraill: Gall gwaith gynnwys atgyfnerthu neu adnewyddu waliau cerrig a ystyrir yn ddiffygiol, gwaith i systemau draenio ac atgyweirio elfennau concrit sydd wedi diffygio.  Mae hefyd yn gallu cynnwys atgyweirio, adnewyddu neu wella (lle bo’n angenrheidiol ac yn briodol) llwybrau cerdded, tai allan / siediau, cyfleusterau sychu dillad a therfynau (ffensys, waliau ac ati).

     

     

     

     

     

     

     

     

     

    Bungalow and new bollards

    WHQS What Improvements will be made to my property

  • Pryd caiff y gwaith ei wneud ar fy eiddo?

    Bydd pob eiddo ym Mro Morgannwg y mae angen gwaith allanol / mewnol arno yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig ymhell cyn dechrau unrhyw waith gwella arfaethedig, er mwyn rhoi amser i chi baratoi. Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen, bydd gwaith ar gydrannau y nodwyd bod angen eu hadnewyddu yn cael ei ychwanegu at y rhaglen gyfalaf flynyddol a’u cynnwys yn y Cynllun Busnes Tai a bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o raglen waith gynlluniedig.

     

     

  • Pwy sy’n gwneud y gwaith mawr?

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gontractwyr i sicrhau y gellir cyflawni pob agwedd ar y gwaith gwella i safon uchel. Cewch eich hysbysu gan y Swyddog Cyswllt Tenantiaid (SCT) o ran pa gontractwyr fydd yn gweithio ar eich eiddo.

     

    WHQS Who is carrying out the major work

     

     

  • A fydd y gwaith yn tarfu ar weithrediad fy nghartref ac a oes unrhyw gymorth a chyngor ar gael?

    Mae’n anochel y bydd gwneud gwaith gwella ar y fath raddfa yn golygu y bydd rhywfaint o darfu ar denantiaid ac rydym yn sylweddoli y gallai’r gwaith allanol achosi cryn anghyfleustra e.e. gwagio’r atig a chlirio potiau o’r ardd. Rydym yn gobeithio y bydd gweld y canlyniad gorffenedig yn gwneud yn iawn am hyn, ac mae cymorth ar gael.

     

     

     

    Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflogi Swyddog Cyswllt Tenantiaid i gadw mewn cysylltiad â chi wrth i elfen benodol o’r gwaith gael ei gwneud, helpu i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych a bod yn fan cyswllt rhyngoch chi a’r Tîm Gwasanaethau Tai ac Adeiladau.  

     

     

    Mae gan rai o’n contractwyr hefyd eu Swyddogion Cyswllt Preswyl eu hunain y mae ganddynt rôl debyg, felly bydd rhywun cyfeillgar i chi gysylltu ag ef/hi ar bob adeg yn ystod y gwaith petai unrhyw broblemau’n codi.

    WHQS will the work involve disruption to my home

     

     

     

  • Sut mae Gwasanaeth Tai Bro Morgannwg yn monitro ansawdd gwaith sy’n cael ei wneud?

    Bydd pob agwedd ar y gwaith mawr yn cael ei monitro’n ddyddiol a rhaid iddi gael ei harchwilio gan un o swyddogion (Clerc Gwaith) y Goruchwylwyr Gwella Tai cyn y gellir llofnodi bod y gwaith ‘wedi’i gwblhau’. Rhaid bod swyddog y GGT yn fodlon bod y gwaith yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru cyn ei gymeradwyo.

     

     

     

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio Gweithgor Tenantiaid a Fforwm Ansawdd a Dylunio wedi’u ffurfio o denantiaid etholedig sy’n ymweld yn rheolaidd â chartrefi, yn siarad â thenantiaid ac yn cynnal arolygiadau yn null ‘siopwyr dirgel’ o gartrefi lle mae gwaith gwella’n cael ei wneud. Caiff eu canfyddiadau eu cyfleu’n ôl i’r Tîm Gwasanaethau Tai ac Adeiladau i’n helpu i gynnal safon uchel o waith a cheisio datrys unrhyw broblemau a allai godi.

     

     

    Mae’r Swyddogion Cyswllt Tenantiaid yn cwblhau Holiaduron Perfformiad Boddhad Tenantiaid Allweddol gyda thenantiaid ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.  Yna caiff y canlyniadau eu casglu, eu cymharu a’u dadansoddi. Caiff contractwyr eu herio o ran perfformiad er mwyn sicrhau bod safon uchel o waith yn cael ei chynnal yn gyffredinol. 

     

     

     

     

  • Beth yw Cynlluniau ‘Budd Cymunedol’?

    Mae Llywodraeth Cymru a Thîm Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Cyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i sicrhau bod yr economi leol yn cael y gwerth mwyaf posib o bob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y gwaith i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

     

     

     

    Mae pob contract mawr bellach yn cynnwys cymalau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Bro Morgannwg ymrwymo i ‘roi rhywbeth ychwanegol’ yn ôl i’r economi leol trwy gynlluniau Budd Cymunedol.

     

     

    Gall cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol megis gerddi cymunedol a thimau chwaraeon neu adnewyddu neuaddau pentrefi, canolfannau cymunedol ac ati.

     

     

     

     

Welsh Government logo