Cost of Living Support Icon

Cwestiynau Cyffredin am Ffioedd Parcio sydd wedi eu Cynnig 2019/2020

Nod y ddalen hon yw ateb y cwestiynau sy’n codi amlaf gan breswylwyr a pherchnogion busnesau lleol ynghylch y ffioedd parcio a gafodd eu cynnig yn ddiweddar.

 

Sylwer mai cynigion yw’r rhain, ac mae disgwyl iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Amgylchedd ac Adfywio ar 4 Ebrill. Gallai’r wybodaeth a roddir yma newid. Y wybodaeth ganlynol sy’n rhan o gynnig y Cyngor fel y mae ar hyn o bryd.  Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, ni ddaw’r ffioedd i rym tan yn hwyrach yn 2019. 

 

  • Ar ba ardaloedd y bydd y newidiadau arfaethig yn effeithio?

    Mae disgwyl i’r ffioedd arfaethedig effeithio ar ardaloedd ar hyd a lled y Fro, yn cynnwys Canol Tref y Barri, Ynys y Barri, Cold Knapp y Barri, Y Bont-faen, Southerndown, Aberogwr, Penarth a Llanilltud Fawr. Bydd pob un o’r ardaloedd hyn yn cael eu hystyried fel maes parcio arhosiad byr, arhosiad hir, maes parcio cyrchfan neu arfordirol neu fel parcio ar y stryd/canol y dref neu fel parc gwledig. Bydd telerau gwahanol ar waith i’r gwahanol fathau o barcio. Dyma’r ystyriaethau fel y maen nhw ar hyn o bryd:

     

    Y Barri:

     

    Kendrick Road, Thompson Street, Wyndham Street (Arhosiad byr i gyd).
    Maes parcio Aml-lawr Court Road (Arhosiad hir).
    Harbour Road Main, Harbour Road Overflow, Pentir Nell (Cyrchfannau i gyd).
    Cold Knap (Arfordirol).
    Parc Porthceri (Parc Gwledig).
     
    Penarth:  Llwybr y Clogwyn (Cyrchfan).
    Yr Esplanâd (Arfordirol).
    Llyn Cosmeston (Parc Gwledig).
     
    Y Bont-faen:  The Butts, Sgwâr Neuadd y Dref, Southgate (Arhosiad byr i gyd).
     
    Southerndown ac Aberogwr:  Cymlau, Brig-y-Don, Rivermouth (Cyrchfannau i gyd).
     
    Llanilltud Fawr:  Cwm Col Huw (Cyrchfan).

  • Faint yw’r ffioedd parcio sy’n cael eu cynnig?

    Arhosiad byr:  Hyd at 2 awr AM DDIM, Hyd at 3 awr £1.00, Hyd at 4 hawr £2.00, Hyd at 5 awr £5.00 a thrwy’r dydd £6.00. Ffioedd ar waith 6 diwrnod yr wythnos rhwng 8:00am a 6:00pm, am ddim i ddeiliad bathodynnau glas. Mae trwyddedau parcio blynyddol ar gael am £160 am 6 mis a £300 am 12 mis, gydag opsiwn i dalu drwy ddebyd uniongyrchol.

     

    Arhosiad hir:  Cynigir bod ffioedd ar gyfer y Maes Parcio Arhosiad hir yr un peth â’r ffioedd arhosiad byr, ond bod hyd at 5 awr yn £4.00 a thrwy’r dydd yn £5.00 yn hytrach na £6.00. Ffioedd ar waith 6 diwrnod yr wythnos rhwng 8.00am a 6.00pm, gyda pharcio am ddim i ddeiliaid bathodynnau glas. Mae trwyddedau parcio blynyddol ar gael am £80 am 6 mis a £150 am 12 mis.
     
    Cyrchfannau:  Nid oes newid tymhorol yn ffioedd parcio’r meysydd parcio cyrchfannau. Y ffioedd parcio cyrchfannau yw 0-1 awr £1.00, 1 awr a mwy £6.00, rhwng 8:00am a 4:00pm. Rhwng 4.01pm ac 11:00pm mae ffi ostyngol ar gyfer parcio 1 awr a mwy, sef £3.00. Byddai’r ffioedd hyn ar waith 7 diwrnod yr wythnos. Bydd trwyddedau blynyddol ar gael ymhob maes parcio am £300. Cynigir y bydd pobl anabl â bathodyn glas yn cael parcio am ddim.
     
    Arfordirol:  Yn yr haf, y ffioedd fydd £1.00 am hyd at awr a £3.00 am barcio drwy’r dydd, gyda ffi o £12.00 ar gyfer bysiau a choetsys. Dim tâl yn y gaeaf, rhwng Tachwedd a Chwefror yn gynwysedig. Ffioedd ar waith 8:00am tan 8:00pm 7 diwrnod yr wythnos a bydd trwyddedau ar gael ar gyfer meysydd parcio unigol am £75 y flwyddyn. Cynigir y gall pobl anabl â bathodyn glas barcio am ddim.
     
    Parciau Gwledig:  Cynigir y bydd ffioedd ar waith drwy’r flwyddyn, £1.00 am barcio hyd at 2 awr, a £3.00 drwy’r dydd, gyda bysiau choetsys yn talu £10.00 am ddiwrnod o barcio. Ffioedd ar waith rhwng 8:00am a 6:00pm 7 diwrnod yr wythnos. Trwyddedau ar gael am £75 fesul maes parcio fesul blwyddyn. Cynigir y gall pobl anabl â bathodyn glas barcio am ddim.
     
    Parcio ar y Stryd/Canol y Dref:  Cynigir ffioedd ar gyfer parcio ar y stryd yng nghyrchfannau arfordirol Penarth (yr Esplanâd) ac Ynys y Barri gydol y flwyddyn, 7 diwrnod yr wythnos. Hyd at 2 awr £2.00, hyd at 3 awr £4.00, hyd at 4 awr £6.00, hyd at 5 awr £8.00 a thrwy’r dydd £10.00. Byddai’r ffioedd hyn ar waith rhwng 8:00am ac 11:00pm yn Ynys y Barri drwy’r flwyddyn ar y stryd, a rhwng 8:00am - 8:00pm ar hyd Esplanâd Penarth. Cynigir bod ffioedd y gaeaf ar Esplanâd Penarth yn hanner ffioedd yr haf. Cynigir y gall pobl anabl â bathodyn glas barcio am ddim.

  • Beth os ydw i’n defnyddio’r meysydd parcio hyn yn rheolaidd?  

    Bydd trwyddedau parcio ar gael i’w prynu ar gyfer pob maes parcio, fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r meysydd parcio am gyn lleied â 50c y dydd. Bydd trwyddedau’n benodol ar gyfer maes parcio a cherbyd, ni fydd modd eu trosglwyddo, ac ni fydd gwerth ariannol iddynt. Bydd modd eu prynu drwy dalu un swm neu drwy ddebyd uniongyrchol. Byddan nhw’n weithredol am naill ai 6 neu 12 mis. Ni fydd trwydded barcio’n gwarantu lle parcio i chi. Ni fydd trwyddedau ar gael ar gyfer parcio ar y stryd (megis ar strydoedd Ynys y Barri neu Esplanâd Penarth). 

  • Beth os ydw i’n breswylydd yn un o’r ardaloedd hyn? 

    Bydd ffioedd ar waith ar gyfer trwyddedau parcio preswylwyr ar gyfer cynlluniau parcio preswylwyr sydd eisoes ar waith a’r rhai newydd.

     
    Darperir cynlluniau parcio i breswylwyr mewn strydoedd lle nad oes gan fwyafrif y preswylwyr ddewis heblaw i barcio’u cerbydau ar y stryd. Nod y cynlluniau parcio i breswylwyr yw cadw rhan o’r parcio’n benodol ar gyfer preswylwyr a’u hymwelwyr, pan fo llawer o bobl nad ydyn nhw’n byw ar y stryd yn parcio yno, megis siopwyr, cymudwyr neu bobl sy’n ymweld â chyfleusterau lleol.
     
    Mae’r cyngor yn darparu cynlluniau parcio i breswylwyr i helpu preswylwyr a’u hymwelwyr i barcio’n rhesymol agos i’w cartrefi. Ni fydd cynlluniau parcio i breswylwyr yn gwarantu lle parcio i chi.  

  • Sut ydw i’n prynu taleb parcio preswylwyr? 

    Pan fo ardal wedi ei dynodi’n ‘ardal parcio i breswylwyr’ bydd unrhyw berson sy’n byw mewn cyfeiriad yn yr ardal honno yn gymwys i wneud cais am drwydded parcio i breswylwyr ar gyfer cerbyd sydd wedi ei gofrestru iddynt yn y cyfeiriad hwnnw, cyn belled mai hwnnw yw eu prif breswylfa. Dim ond ar gyfer cerbydau y cyhoeddwyd nhw ar eu cyfer y gall trwyddedau parcio i breswylwyr gael eu defnyddio. Gellir cyflwyno trwyddedau ar-lein neu yn bersonol, a bydd rhaid darparu tystiolaeth o fod yn byw yn y cyfeiriad. Bydd trwyddedau’n ddilys am 12 mis.  

     

     
    Y ffioedd sydd wedi eu cynnig ar gyfer parcio i breswylwyr yw:
    1 - £10
    2 - £20 yn ychwanegol
    3 - £30 yn ychwanegol
    4 - £40 yn ychwanegol
    5 – Ffioedd yn cynyddu’n gymesur â nifer trwyddedau/ceir
     
    Er enghraifft:
    Byddai teulu â 3 char/trwydded yn talu £10 + £20 + £30 = £60 y flwyddyn. 
     
    Cynigir y bydd trwydded ar gyfer ymwelwyr yn costio £20. Dim ond un drwydded i ymwelwyr y flwyddyn sydd ar gael i bob eiddo. Bydd telerau ac amodau ar waith ar gyfer defnyddio’r drwydded ymwelwyr.

  • Beth os ydw i’n anabl? 

    Mae’r Polisi Parcio sydd wedi ei gynnig ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn ei gwneud yn glir na fydd ffioedd parcio ar gyfer pobl anabl â bathodyn glas. Ni fydd ffioedd na chyfyngiadau amser ar gyfer pobl anabl sy’n arddangos eu bathodyn glas yn gywir. 

  • Sut bydd y ffioedd arfaethedig yn effeithio ar fusnesau a pherchnogion busnesau lleol? 

    Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr MRUK ar gyfer Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod argaeledd llefydd parcio yn bwysicach i'r rhai sy'n dymuno parcio na chost y parcio hwnnw. Awgrymir hefyd bod ansawdd yr atyniadau sydd ar gael yn bwysicach i ymwelwyr. Mae argaeledd parcio ar y stryd yn Ynys y Barri yn brin iawn oherwydd trosiant gwael y lleoedd. Mae taliadau'n helpu i reoli'r galw gan eu bod yn cynyddu trosiant, felly yn hytrach nag un teulu yn parcio eu car ar y stryd ac yn mynd i'r traeth am ychydig oriau, gallai fod nifer o deuluoedd mewn nifer o gerbydau.

    Credwn fod masnachwyr a'u staff yn manteisio ar lawer o'r mannau parcio ar y stryd ar hyn o bryd, ac felly'n gwadu cyfleoedd parcio cyfagos i ymwelwyr sydd efallai'n dymuno gwario arian yn y siopau ar Ynys y Barri. Dylid annog staff a pherchnogion busnes i barcio ymhellach i ffwrdd oddi wrth y prif gyfleusterau yn Ynys y Barri, os oes rhaid iddynt ddefnyddio'u car, a dyma un o'r rhesymau pam y datblygwyd opsiwn tocyn tymor ar gyfer y maes parcio. 

     

  • Sut byddaf i’n talu am y parcio? 

    O ran seilwaith, bwriedir defnyddio Peiriannau ‘Talu ac Arddangos’. Bydd y peiriannau yn derbyn darnau arian a thaliadau di-gyswllt, ond ni fyddant yn derbyn arian papur. Bydd angen mewnbynnu rhif cofrestru’r car. Bydd angen arddangos tocyn wrth barcio, hyd yn oed os na fydd ffi am y cyfnod parcio.

     

  • Sut bydd y ffioedd yn cael eu gorfodi?  

    Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 18 Chwefror 2019 yn ymwneud â darparu gwasanaeth gorfodi mewnol, fydd ar waith ar gyfer Gorfodi Amgylcheddol a Gorfodi Parcio Sifil. Mae’r adroddiad yn cynnwys cynigion ynghylch dyfodol Gwasanaeth Gorfodi’r Cyngor ac yn argymell creu tîm gorfodi mewnol, wedi ei ganoli.  Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn amlinellu cynlluniau’r dyfodol o ran gorfodi’r Polisi Parcio. 

  • Pam ydych chi’n cyflwyno taliadau maes parcio ar adeg pan fo llawer o fusnesau'n ei chael hi’n anodd? 

    Mae'r Cyngor yn ei chael yn anodd parhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen sydd eu hangen ar ein trigolion. Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cynnal a chadw ei asedau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynyddu yn Ynys y Barri oherwydd ei boblogrwydd newydd.

     

    Yn anffodus, mae sefyllfa cyllid y Llywodraeth Genedlaethol ar gyfer Llywodraeth Leol dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu gostyngiadau sylweddol a mynych yn ein setliadau ariannol. Mae'r sefyllfa bresennol yn golygu, wrth geisio amddiffyn gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol yn y ffordd orau (48.3% a 28.8% o'n gwariant blynyddol yn y drefn honno), na allwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau anstatudol y mae ein trigolion a'n hymwelwyr yn eu disgwyl ar leoliadau fel Ynys y Barri; oni bai bod arian ychwanegol ar gael.  

     

    O ran y manylion, mae'r setliad cyffredinol yn ostyngiad cyfartalog o 0.3% ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Ym Mro Morgannwg y gostyngiad yw 0.7%, sy'n cyfateb i ostyngiad arian parod o £ 1.037m. Mewn termau go iawn, gan ystyried chwyddiant a phwysau hysbys eraill fel chwyddiant cyflog cenedlaethol a'r cynllun pensiwn i athrawon nas ariennir, mae'r gostyngiad yn y gyllideb yn debycach i 4.2%.


    Mae’r effaith y bydd y gostyngiad hwn yn ei chael ar wasanaethau lleol ac, felly hefyd y trethdalwyr lleol, yn ddigynsail. Yn y Cyngor hwn, mae arbedion refeniw o fwy na £50m wedi'u nodi a'u cyflawni ers 2010/2011. Mae’r Gyfarwyddiaeth Amgylchedd a Thai (y Gyfarwyddiaeth sy'n gyfrifol am Feysydd Parcio Ceir, Priffyrdd, Rheoli Gwastraff, Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir a Pharciau ac ati) ar ben ei hun wedi gweld gostyngiad yn y gyllideb o 26% [£8.1m] ers 2015. Mae angen i'r Cyngor yn awr arbed £3 miliwn yn 2019/20 a £12 miliwn bellach dros y ddwy flynedd ganlynol dim ond er mwyn cadw o fewn ein cyllidebau.

     
    Nid cynhyrfu ein trigolion na gwrthdaro â busnesau lleol yw ein nod. Fodd bynnag, credwn fod yn rhaid i ni gyflwyno taliadau meysydd parcio nawr er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a sicrhau bod y rhai sy'n defnyddio'r ddarpariaeth meysydd parcio ceir yn talu am ei ddefnyddio ar y safle. Un o'r dewisiadau eraill fyddai cynyddu'r Dreth Gyngor i dalu am gostau meysydd parcio ceir, gan olygu bod y gymuned gyfan yn talu, pa un a ydynt yn defnyddio'r meysydd parcio ai peidio. Teimlwn y byddai hyn yn annheg.

     
    Er bod llawer yn awgrymu mai dim ond effaith negyddol caiff codi tâl am barcio ar fusnesau yn y Fro, ni chredwn fod hyn yn wir. Mae astudiaethau wedi dangos y gall rheoli parcio'n well alluogi defnydd mwy cynhyrchiol o fannau cyhoeddus (sydd weithiau'n gyfyngedig iawn) o fewn trefi. Mae'n anochel y bydd rhywfaint o anghyfleustra i weithwyr siopau a masnachwyr, a all orfod parcio ymhellach i ffwrdd fel y gall siopwyr ddefnyddio mannau parcio cyfagos. Fodd bynnag, y siopwyr hyn fydd yn gwario arian yn y lleoliadau hyn, oherwydd eu bod yn fwy hygyrch i siopau/amwynderau.

  • Pam nad ydych yn codi tâl am barcio yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri ac yn swyddfeydd eraill y Cyngor?

    Dim ond lle mae galw am le i siopa neu i ymwelwyr y cynigir taliadau. Cafodd maes parcio'r swyddfeydd dinesig yn Y Barri ei gynnwys fel rhan o'r asesiad o opsiynau gan Capita. Nododd eu harolwg mai dim ond 14 o'r 140 o leoedd oedd yn cael eu defnyddio ar ddydd Sadwrn pan oedd Heol Holltwn ar ei brysuraf. Bydd y ddarpariaeth parcio am ddim ar benwythnosau yn y Swyddfeydd Dinesig yn parhau, a gallai hynny fod yn ddefnyddiol i fasnachwyr a'u staff.  

  •  Pam mae cynlluniau i godi ffi am barcio ar y stryd yn Ynys y Barri ac Esplanade Penarth?

    Yn y ddau leoliad hyn sy’n boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr, mae lleoedd i barcio ceir ‘ar y stryd’, sydd agosaf at yr amwynderau, am ddim, tra bo  meysydd parcio oddi ar y stryd, sydd ymhellach i ffwrdd, yn codi tâl (cynnig i wneud hynny yn ystod tymor yr haf yn unig ym Mhenarth). Mae hwn yn anomaledd ynddo’i hun, gan fod cymhelliad clir i barcio ‘ar y stryd’ yn hytrach nag yn y maes parcio. Er bod amrywiaeth o gyfyngiadau parcio ar y stryd yn yr ardaloedd hyn, prin iawn maent yn helpu gyda’r galw am barcio a/neu annog defnyddio meysydd parcio gerllaw. Yn aml iawn, mae’n anodd dod o hyd i le parcio ‘ar y stryd’ yn sgil y galw mawr am y lleoedd parcio hyn ac mae ffioedd parcio ar y stryd yn yr ardaloedd hyn drwy gydol y flwyddyn yn adlewyrchu mor boblogaidd y maen nhw ymysg ymwelwyr. Bydd trosiant y parcio yn cynyddu yn sgil codi tâl am barcio ar y stryd a dylai tagfeydd leihau wrth i fwy o yrwyr ddewis defnyddio’r meysydd parcio, yn hytrach na gyrru o gwmpas yn chwilio am le ar y stryd. Byddai incwm o tua £100,000 y flwyddyn yn cael ei gynhyrchu hefyd yn sgil codi tâl am barcio ar y stryd, a byddai hynny’n helpu i dalu am ddarparu lleoedd parcio, gan ddefnyddio unrhyw arian dros ben i ariannu seilwaith parcio a’r briffordd a gwella trefniadau trafnidiaeth. 

  •  Ble fydd y masnachwyr yn parcio yn Ynys y Barri ac ar Esplanade Penarth ar ôl cyflwyno’r ffioedd parcio ar y stryd? 

    Un o’r problemau sy’n ymwneud â’r trefniadau presennol i barcio ar y stryd yw masnachwyr sy’n dibynnu gormod ar allu parcio’n agos at eu busnesau. Er y gallwn ddeall hynny, dylai’r mannau parcio sydd agosaf at y siopau a’r busnesau gael eu gadael yn rhydd ar gyfer y siopwyr sydd am ddefnyddio’r busnesau hynny, gan wella hygyrchedd a nifer yr ymwelwyr yn y pen draw. 

     

    Anogir masnachwyr i barcio ymhellach i ffwrdd o’r amwynderau, gan ddefnyddio’r meysydd parcio oddi ar y stryd yn ôl yr angen, gan gynnig opsiwn i brynu tocyn parcio blynyddol. Fel arall, gallent ddefnyddio dulliau eraill o deithio llesol yn hytrach na’r car. 

    Mae rhai masnachwyr wedi datgan y byddant yn parcio ar y stryd yn Ynys y Barri lle nad oes cynllun wedi’i gynnig am godi tâl, a gallai hynny effeithio ar breswylwyr. Beth fydd y Cyngor yn ei wneud ynglŷn â hynny?  Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd yn para’n hir. Mae gennym gynlluniau i gyflwyno rhagor o barthau rheoli parcio mewn lleoliadau megis Ynys y Barri i helpu preswylwyr sydd â diffyg lle parcio y tu allan i’w cartref yn sgil cyflwyno’r Polisi Parcio. 

     

    Bydd ein swyddogion yn asesu’r patrymau dadleoli o ran parcio sy’n digwydd yn sgil y Polisi ac yna’n edrych ar gyflwyno rheoliadau parcio ar y stryd sy’n targedu’r broblem yn uniongyrchol er mwyn amddiffyn preswylwyr. 

  •  Pam mae’r ffioedd yn cael eu cynnig yn dymhorol yn y Cnap ac nid yn Ynys y Barri?

    Mae’n adlewyrchu poblogrwydd yr ardaloedd ymysg ymwelwyr. Mae Ynys y Barri yn brysurach drwy gydol y flwyddyn nag ardal y Cnap ac mae’r ffioedd yn adlewyrchu’r cynnydd yn yr ymwelwyr a’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi hynny.